Tafwyl
Gŵyl flynyddol Menter Caerdydd i ddathlu celfyddydau a diwylliant Cymraeg yw Tafwyl, sydd yn digwydd yn flynyddol yng Nghaerdydd, Cymru.
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad sy'n ailadrodd |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cefndir
golyguSefydlwyd yr ŵyl yn 2006 yn dilyn cyfarfod agored gan Menter Caerdydd. Cynhaliwyd yr ŵyl gyntaf yng ngardd gefn hen dafarn y Mochyn Du ger Canolfan Chwaraeon Genedlaethol Cymru. Daeth oddetu 80 o bobl i'r cyfarfod a chost y Tafwyl gyntaf oedd £2,500.[1] Yn 2012 symudodd yr ŵyl o’r Mochyn Du i Gastell Caerdydd. Mae cynulleidfa Tafwyl wedi tyfu yn aruthrol dros y blynyddoedd o ychydig dros mil o bobl yn y Mochyn Du yn ei ddyddiau cynnar, i 38,000 o bobl yng Nghaeau Llandaf yn 2017. Yn 2018 cyllideb yr ŵyl oedd £150,000.[1]
Mae’n ddigwyddiad 9 diwrnod i gyd; gyda digwyddiadau amrywiol yn cael eu cynnal o amgylch Caerdydd am wythnos, gan orffen gyda’r prif ddigwyddiad dros y penwythnos olaf. Mae’r prif ddigwyddiad yn gymysgedd fywiog o gerddoriaeth, llenyddiaeth, drama, comedi, celf, chwaraeon, bwyd a diod yng Nghastell Caerdydd. Mae’n ddigwyddiad rhad ac am ddim sy’n agored i bawb – yn siaradwr Cymraeg neu beidio.
Manylion y gŵyliau
golygu2018
golyguDychwelodd yr ŵyl i Gastell Caerdydd y flwyddyn hon, a daeth yn agos 40,000 o ymwelwyr.[2]
Sadwrn
Prif Lwyfan | Y 'Sgubor | Yurt T |
---|---|---|
Adwaith Omaloma |
Danielle Lewis |
Wigwam |
Sul
Prif Lwyfan | Y 'Sgubor | Yurt T |
---|---|---|
Cowbois Rhos Botwnnog |
Glain Rhys |
Eady Crawford |
2017
golyguYn 2017 cynhaliwyd yr ŵyl yng nghaeau Llandaf a gwelwyd 38,000 o ymwelwyr .[3] Bryn Fôn a'r Band oedd i fod i orffen yr ŵyl ar y nos Sul ar y Brif Lwyfan on ni allent fynychu felly Candelas oedd yr prif fand.[4] Roedd "Reu! 25" yn ddathliad o gerddoriaeth electronig Cymru.[5]
Sadwrn
golyguPrif Lwyfan | Llwyfan Acwstig |
---|---|
Gwilym Bowen Rhys Cpt Smith |
Big Fish Little Fish Danielle Lewis |
Sul
golyguPrif Lwyfan | Llwyfan Acwstig |
---|---|
Cyw Y Gerddorfa Ukulele |
Cwpwrdd Nansi Iwan Huws |
2016
golyguCastell Caerdydd oedd lleoliad yr ŵyl yn 2016 ac roedd 36,500 o ymwelwyr.[6]
Sadwrn
Prif Lwyfan | Llwyfan Acwstig |
---|---|
Cadno Trwbz |
Holl Anifeiiad Y Goedwig Gai Toms |
Sul
Prif Lwyfan | Llwyfan Acwstig |
---|---|
Cyw Y Gerddorfa Ukulele |
Sera Carreg Lafar |
2015
golyguDaeth 34,000 o ymwelwyr i Tafwyl yn 2015.[7] Dyma'r flwyddyn gyntaf i prif ddigwyddiad yr ŵyl gael ei gynnal dros deuddydd.
Prif Lwyfan | Llwyfan Acwstig |
---|---|
Cyw Kookamunga |
Plu: Holl Anifeiliaid Y Goedwig Aled Rheon |
2014
golyguCastell Caerdydd oedd cartref Tafwyl 2014 a daeth 18,717 o bobl.[8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Beti a'i Phobl Siân Lewis". BBC Radio Cymru. 29 Ebrill 2018.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-30. Cyrchwyd 2018-07-11.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-03-18. Cyrchwyd 2018-04-23.
- ↑ https://twitter.com/Tafwyl/status/881517224867094532
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-14. Cyrchwyd 2018-04-23.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-12. Cyrchwyd 2018-04-23.
- ↑ Katherine Williams, Victoria Jones (26 March 2016) "Line-up for Cardiff's 2016 Tafwyl Festival has been revealed", Wales Online. Retrieved 2 April 2017.
- ↑ "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-09-05. Cyrchwyd 2018-04-23.