Castell Caergwrle
Castell canoloesol ym mhentref Caergwrle, Sir y Fflint, Cymru, yw Mae Castell Caergwrle. Codwyd y castell gan y Tywysog Dafydd ap Gruffudd (brawd Llywelyn yr Ail) rhwng 1277 ac 1282.
Math | castell, safle archaeolegol ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Yr Hôb ![]() |
Sir | Sir y Fflint |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 130 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.107739°N 3.036644°W ![]() |
Rheolir gan | Cadw ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | Cadw ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig ![]() |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | FL020 ![]() |


Hanes golygu
Mae'n debyg iddo gael ei godi gan Dafydd ap Gruffudd, brawd Llywelyn ap Gruffudd, yn 1277, ar dir a roddwyd iddo gan Edward I, brenin Lloegr dan dermau Cytundeb Aberconwy ar ôl ei ryfelgyrch cyntaf ar Gymru. Ymosododd Dafydd ar ddeiliaid Edward ym Mhenarlâg yn 1282, efallai o Gastell Caergwrle, gan achosi ail ryfelgyrch Edward yng Nghymru. Erbyn i'r Saeson gyrraedd Caergwrle ym Mehefin 1282, roedd y Cymry wedi difrodi'r castell a llenwi'r ffynnon cyn dianc; er hynny, trwsiwyd y castell gan y Saeson, ac fe'i rhoddwyd gan Edward i'w frenhines Eleanor o Castile yn y flwyddyn canlynol, ond llosgwyd y castell i lawr yn ddamweiniol chwe mis yn ddiweddarach. Etifeddodd eu mab, Edward II, y castell cyn iddo gael ei roi i John o Gromwell yn 1308 ar yr amod y buasai'n ei drwsio, ond erbyn 1335 roedd yn adfail.
Castell Caergwrle oedd y castell olaf i gael ei godi gan y tywysogion Cymreig. Mae ar agor trwy'r flwyddyn i'r cyhoedd a gellir ei gyrraedd trwy ddilyn llwybr o'r briffordd gerllaw.
Disgrifiad golygu
Erbyn heddiw, does fawr ar ôl o'r amddiffynfeydd, heblaw gwaith pridd ac ychydig o waith carreg gweladwy. Lleolir y castell ar ben allt serth, sydd naill ai wedi ei godi neu'n allt naturiol.
Cawg Caergwrle golygu
Darganfuwyd Cawg Caergwrle, gwrthrych unigryw o Oes yr Efydd y credir ei fod yn fodel cwch neu long offrymol, mewn cors ger y castell yn 1823. Mae ar gadw yn Amgueddfa Cymru.
Llyfryddiaeth golygu
- Richard Avent, Cestyll Tywysogion Gwynedd (HMSO, Caerdydd, 1983)
- Paul R. Davies, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988)