Hyd at yr 20g, credai haneswyr mai gwareiddiad, diwylliant a dinas yr Henfyd oedd Tartessos (Groeg: Τάρτησσος), a leolwyd ar benrhyn Iberia. Ers yr 20g, fodd bynnag, profwyd mai ardal gyfoethog iawn o gwmpas Huelva, Sbaen ydyw, gyda phorthladd mewn lleoliad masnachol hynod bwysig. Yma, canfyddwyd oddeutu cant o feddfaeni, neu gerrig bedd ac arnynt ysgrif yr iaith Geltaidd.

Tartessos
Mathdinas â phorthladd, teyrnas, diwylliant, pobl, gwareiddiad, diwylliant archeolegol, dinas hynafol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadPenrhyn Iberia Edit this on Wikidata
GerllawAfon Guadalquivir Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37°N 6.2°W Edit this on Wikidata
Map

Fe'i disgrifiwyd yn gyntaf gan y Groegiaid (gan gynnwys Herodotus) ac roedd yr ardal yn nodedig am ei mwynau, arian a tun. Yn ôl Hesychius lleolwyd "dinas Tartessos ger 'Colofnau Hercwles' (Culfor Gibraltar) a bod yno ffuredau ac anifeiliaid mytholegol milain iawn". Credwyd, tan yn ddiweddar, fod y ddinas, ers rhai canrifoedd, o dan y môr.

Yr ardal lle roedd dylanwad y gwareiddiad Tartesos

Cerrig beddau Celtaidd golygu

Yn 2009, cyflwynodd yr Athro John Koch, o'r Bwrdd Gwybodau Celtaidd yn Aberystwyth, ddamcaniaeth newydd a chwyldroadol iawn fod bron i gant o gerrig beddau yn ardal Tartessos, de Sbaen wedi'u hysgrifennu yn yr iaith Geltaidd, ac yn dyddio i gychwyn Oes yr Haearn. Fe'i cyhoeddwyd yn wreiddiol fel papur, ac yna fel llyfr.[1] Dywed ymhellach, fod y Tarteseg yn perthyn i deulu'r Ieithoedd Indo-Ewropeaidd, ac yn benodol, yn iaith Geltaidd, gynnar.[2] Er bod anghytundeb ynglŷn â hyn, mae'r dystiolaeth yn cynyddu.

Dyma'r ysgrifen (dwy fil a hanner o flynyddoedd oed) ar un o'r cerrig hyn:[3]

Lokobo nurabo to araiai kalte lokonane narke kak isiinkolobo ii te-ro-bare be tasiioonii.

Yn ôl Koch, dyma gyfieithiad o'r sgript (Ffenicaidd):

Lokobo - y duw Lleu (neu Lugh chwedloniaeth Wyddelig; Locobo mewn Galisieg)
nurabo - y Neri, llwyth Celtaidd
araiai kalte - araiai o'r un tarddiad a thir âr (aredig) + arwr neu 'y Celt'. 'Dan y tir hwn, rhoed arwr / Celt'.
lokon - claddedigaeth neu wrn
narke - oddi tano neu di-syfl / di-symyd
isiinkolobo - arwyr
te-ro-bare - cludo i fynwent y person marw o'r enw...
tasiioonii - Ta[ch]seoonus

Gweler hefyd golygu

  • Leponteg - iaith Geltaidd a siaredid gan lwyth y Lepontii ac eraill yng ngogledd yr Eidal rhwng tua 700 CC a 400 CC

Cyfeiriadau golygu

  1. Koch, John T. (2009). "A Case for Tartessian as a Celtic Language". Acta Palaeohispanica (Aberystwyth University) X (9): 339–351. ISSN 1578-5386. http://ifc.dpz.es/recursos/publicaciones/29/54/26koch.pdf. Adalwyd 2010-05-17.
  2. Alice Roberts, The Celts: Search for a Civilization (BBC / Heron Books, 2016)
  3. Roberts, The Celts, t.242