Saig draddodiadol o Gymru sy'n cynnwys cig a llysiau tymhorol yw cawl Cymreig. Erbyn heddiw mae gan y gair cawl ystyr ehangach, ond yn hanesyddol roedd yn dynodi pryd arbennig.

Cawl Cymreig
Mathbroth, pryd o gig oen Edit this on Wikidata
Rhan oCoginiaeth Cymru Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscig oen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cynhwysion sylfaenol y cawl traddodiadol yw cig moch, bresych, tatws, a chennin. Defnyddid cig eidion neu oen yn aml yn lle'r bacwn neu'n ychwanegol iddo, a hefyd moron, pannas, rwden, ffa llydain, a sewyrllys.[1] Câi'r darnau o gig, llysiau a pherlysiau eu cyd-ferwi mewn dŵr yn yr un llestr, ac yna câi'r trwyth ei dewhau gyda blawd ceirch neu flawd plaen.[2] Gall y cawl hefyd gynnwys twmplenni blawd ceirch a throlennau, sef twmplenni neu bwdinau bychain llawn cyrens. Weithiau ychwanegir saws perllys a wneir gyda'r dŵr a ddefnyddiwyd i goginio'r tatws, ac nid gyda llaeth.[1]

Cofnodwyd y gair "cawl" yn gyntaf yn y 13g, yn yr ystyr o fresych neu lysiau coginio. Daw o'r gair Lladin caulis, sy'n golygu coesyn planhigyn neu fresych. Ers tua'r flwyddyn 1400 defnyddir yn ei ystyr o saig sy'n cynnwys bresych, a chynhwysion eraill.[3] Gweinid y potes yn gyntaf ac yna'r cig a llysiau yn hanesyddol, ond erbyn heddiw un cwrs yw'r cawl Cymreig.[2] Fe'i paratoid yn gyffredin gynt ar gyfer cinio ganol dydd yn ardaloedd amaethyddol Cymru, ac ar gyfer cinio nos y glöwr yng nghymoedd diwydiannol y de.[4] Arferid bod yn gyffredin iawn yn ystod y gaeaf yn y de orllewin. Pryd debyg a geir yn y gogledd yw lobsgows.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Alan Davidson. The Oxford Companion to Food, 3ydd argraffiad (gol. Tom Jaine; Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2014), t. 154.
  2. 2.0 2.1 2.2 John Davies et al. (gol.) Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), t. 148 [CAWL].
  3.  cawl. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 26 Mehefin 2015.
  4. S. Minwel Tibbott. Geirfa'r Gegin (Amgueddfa Werin Cymru, 1983), t. 28.

Ryseitiau

golygu