Taten
Tatws | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Solanales |
Teulu: | Solanaceae |
Genws: | Solanum |
Rhywogaeth: | S. tuberosum |
Enw deuenwol | |
Solanum tuberosum L. |
Cloronen startshlyd â chroen brown neu goch sy'n ehangiad o goesyn tanddaearol o'r planhigyn trin Solanum tuberosum ac a goginnir a bwytir fel llysieuyn yw taten (ll. tatws). Mae taten yn dod o Dde America yn wreiddiol, ond bwytir nhw ledled Ewrop, De America a Gogledd America heddiw.
Dywediadau a llên gwerin
golyguMae'n arferiad yng Nghymru i alw plant neu bobl annwyl eraill yn Flodyn Tatws.
Ffenoleg
golyguDengys dadansoddiad o gofnodion Llèn Natur ym Mwletin 151 (graff tud. 6)[1] mai ym mis Ebril fu anterth plannu (cyfystyron 'seti', 'gosod') tatws yng Nghymru, priddo ym mis Mehefin, a chodi tatws ym mis Hydref.
Dyma ddau gofnod enghrefftiol o'r amrywiadau ar y gair 'plannu':
John Owen Hughes, Bwlchtocyn, Llŷn, yn gosod tatws ar 14 Ebrill 1931 ac ar 23 Mai 1851 roedd Edward Evans, Parsele, Gogledd Penfro yn Penud seti tato (h.y. gorffen plannu tatws).
-
Poster yn hysbysu pobl o lwyth o datws o'r Iwerddon ar werth yn Llangrannog
-
Blodau tatws