Caws Parmigiano-Reggiano

(Ailgyfeiriad o Caws Parmesan)

Math o gaws o'r Eidal yw caws Parmesan (Eidaleg: Parmigiano; yn fwy penodol, Parmigiano reggiano (Ynganiad Eidaleg: [ˌparmiˈdʒaːno redˈdʒaːno]). Mae'n gaws caled, cryf a ddefnyddir gan amlaf gyda bwydydd pasta. Mae'r enw "Parmesan", sef y Rhanbarth "Parma", yn cael ei ddefnyddio fel term cyffredinol am yr holl amrywiadau lleol; ond erbyn hyn (2017), ni chaniateir ei ddefnyddio wrth farchnata'r caws oherwydd deddfau Ewropeaidd.[1] Fel rheol mae'r caws yn cael ei grafu dros y bwyd.

Caws Parmigiano-Reggiano
Enghraifft o'r canlynoltype of cheese Edit this on Wikidata
Mathgrana Edit this on Wikidata
Deunyddllaeth, calf rennet Edit this on Wikidata
Label brodorolParmigiano Reggiano Edit this on Wikidata
Enw brodorolParmigiano Reggiano Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.parmigianoreggiano.com/en/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Darn o gaws Parmesan.
Ardal cynhyrchu caws Parmesan.

Prif ardal cynhyrchu caws Parmesan yw rhanbarth Emilia-Romagna yng ngogledd canolbarth yr Eidal. Fe'i henwir ar ôl dinas hynafol Parma yn y rhanbarth honno, ond mae'r ardal cynhyrchu yn ymestyn ar draws Emilia-Romagna.

Cyfeiria ail ran yr enw at Ranbarth Reggiano, neu o leiaf at y tir i'r dwyrain o afon Reno a chaiff hefyd ei gynhyrchu yn rhanbarthau Parma, Modena, Emilia-Romagna a Mantova yn Lombardia. Dim ond cawsiau yn yr ardaloedd hyn gaiff eu galw'n gawsiau Parmigiano-Reggiano a'r cyfieithiad "Parmesan".

Cynhyrchu golygu

Caiff caws Parmigiano-Reggiano ei greu o laeth buwch. Cymysgir llaeth llawn hufen wedi'r godro fin nos gyda llaeth hanner hufen a gasglwyd y noson cynt; felly llaeth rhannol a ddefnyddir, o ran hufen. Yna, mae'r llaeth yma'n cael ei bwmpio i gynhwysyddion copr.

Blas golygu

Mae caws Parmesan yn gryf mewn umami.[2] Oherwydd hyn, fe'i defnydir i'w ychwanegu at brydau eraill yn hytrach nag ar ben ei hun.

Un o'r cynhyrchwyr mwyaf, ers 1945 yw Kraft Foods.[3][4] Fel ychwanegiad ar gyfer pasta a pitsa, caiff ei gynnig, fel arfer, am ddim.

Cyfeiriadau golygu

  1. Case C-132/05 Commission v Germany Archifwyd 2016-02-21 yn y Peiriant Wayback. European Commission Legal Service, Gorffennaf 2008
  2. Taste: Surprising Stories and Science about Why Food Tastes Good – Barb Stuckey – Google Books. Books.google.com. 2013-03-26. Cyrchwyd 2014-05-30.
  3. Justin M. Waggoner (12 Hydref 2007). "Acquiring a European Taste for Geographical Indications" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-12-06. Cyrchwyd 2014-09-22.
  4. Brodsy, Alyson. "U.S. cheese maker says it can produce Parmesan faster | Business | Indiana Daily Student". Idsnews.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-31. Cyrchwyd 2014-05-30.