Deunydd bwyd sy'n cael ei gynhyrchu o laeth yw cynnyrch llaeth, neu gynnyrch llefrith. Mae'r cynnyrch fel rheol yn llawn egni. Gelwir safle cynhyrchu'r deunydd yn laethdy. Daw'r llaeth crai o fuwch fel arfer, ond weithiau o famaliaid eraill megis geifr, defaid, byfflo, yak, neu geffylau. Mae cynnyrch llaeth i'w ganfod yn gyffredin mewn bwydydd Ewropeaidd, y Dwyrain Canol ac Indiaidd, ond mae bron byth i'w gael mewn bwydydd Dwyrain Asia.

Gall cynnyrch llaeth achosi problemau iechyd i rhai sy'n dioddef o anoddefgarwch lactos neu alergedd llaeth. Nid yw pobl sy'n dilyn diet fegan yn bwyta cynnyrch llaeth.

Eginyn erthygl sydd uchod am fwyd neu ddiod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.