Cecil Griffiths

athletwr o Gymru

Athletwr o Gymru oedd Cecil Redvers Griffiths (18 Chwefror 190011 Ebrill 1945). Llwyddodd i ennill medal aur yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1920 ond cafodd ei wahardd rhag cystadlu yng Ngeamu Olympaidd yr Haf 1924 yn dilyn dyfarniad ei fod wedi cystadlu yn broffesiynol yn gynharach yn ei yrfa.[2]

Cecil Redvers Griffiths
Gwybodaeth bersonol
Ganwyd(1910-02-18)18 Chwefror 1910
Castell-nedd, Cymru
Bu farw11 Ebrill 1945(1945-04-11) (35 oed)[1]
Llundain, Lloegr
Camp
GwladCymru
ChwaraeonAthletau
Camp400m
ClwbSurrey Athletics Club
Diweddarwyd 15 Awst 2022.

Bywyd cynnar golygu

Griffiths oedd y pumed plentyn allan o chwech i Benjamin a Sarah Griffiths. Roedd Benjamin yn aelod o bwyllgor Clwb Rygbi Castell-nedd ac roedd Cecil yn asgellwr addawol i'r timau iau cyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.[3]

Ar ôl gadael ysgol dechreuodd Griffiths weithio yng ngorsaf drennau Castell Nedd a phan gyrhaeddodd ei benblwydd yn 18 mlwydd oed ymunodd â'r Queen's Westminsters, catrawd Byddin Diriogaethol yn Llundain.

Gyrfa athletau golygu

Dechreuodd Griffiths redeg mewn cystadlaethau athletau tra'n y fyddin gan ennill ras y 440 llath Rhyng-Wasanaethol ym 1918 yn Stadiwm Stamford Bridge [4]. Wedi diwedd y Rhyfel ymunodd Griffiths â Chlwb Athletau Surrey a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaethau'r Gymdeithas Athletau Amatur (AAA) ym 1919 gan orffen yn drydydd yn y ras dros 440 llath. Wedi gorffen yn drydydd eto ym 1920 cafodd ei ddewis ar gyfer tîm Prydain Fawr ar gyfer Ngemau Olympaidd yr Haf 1920.

Gwnaeth ei unig ymddangosiad yn y Gemau Olympaidd ar y cymal agoriadol o'r Ras Gyfnewid 4x400 metr wrth i Brydain ennil y fedal aur.[5] Roedd hefyd wedi ei ddewis i gynrychioli Prydain yn y 400 metr ond bu rhaid iddo dynnu yn ôl oherwydd salwch.[6]

Ym 1921 llwyddodd Griffiths i dorri'r record Gymreig yn y 220 llath a'r 440 llath[7] cyn troi ei sylw at redeg dros 880 llath y flwyddyn ganlynol. Torrodd y record Gymreig dros 880 llath ym 1922 a cipiodd Berncampwriaeth y AAA ym 1923 a 1925.[8]

Cafodd Griffiths ei wahardd gan y Ffederasiwn Athletau Amatur Rhyngwladol am hawlio arian gwobr mewn nifer o rasys yng Nghastell Nedd ac Abertawe ym 1917.[9] Fel athlwtwr proffesiynol cafodd ei wahardd rhag rhedeg mewn cystadlaethau rhyngwladol ac o'r herwydd nod oedd yn gymwys ar gyfer Gemau Olympaidd yr Haf 1924 lle byddai'n debygol o fod wedi cystadlu yn y 800 metr a'r ras gyfnewid 4x400.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Cecil Griffiths". Olympedia.org.
  2. "Cecil Griffiths". Olympedia. Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2021.
  3. Hanna, John (2014). Only Gold Matters: Cecil Griffiths, The Exiled Olympic Champion. Chequered Flag Publishing. t. 14. ISBN 978-0-9569460-5-8.
  4. Hanna, John (2014). Only Gold Matters: Cecil Griffiths, The Exiled Olympic Champion. Chequered Flag Publishing. t. 38. ISBN 978-0-9569460-5-8.
  5. "Cecil Richmond Griffiths". Olympic Movement. Cyrchwyd 9 Ionawr 2014.
  6. Cecil Griffiths. sports-reference.com
  7. "Cecil Griffiths". Welsh Athletics. Cyrchwyd 9 January 2014.
  8. "British Athletics Championships 1919-1939". GBR Athletics. Cyrchwyd 9 January 2014.
  9. Hanna, John (2014). Only Gold Matters: Cecil Griffiths, The Exiled Olympic Champion. Chequered Flag Publishing. t. 153. ISBN 978-0-9569460-5-8.