Gemau Olympaidd yr Haf 1920

Cynhaliwyd Gemau Olympaidd yr Haf 1920 (Ffrangeg: Jeux olympiques d'été de 1920, Iseldireg: Olympische Zomerspelen van 1920, Almaeneg: Olympische Sommerspiele 1920), digwyddiad aml-chwaraeon a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r VII Olympiad rhwng 14 Awst a 12 Medi yn Antwerp, Gwlad Belg.

Gemau Olympaidd yr Haf 1920
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad aml-chwaraeon Edit this on Wikidata
Dyddiad1920 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd20 Ebrill 1920 Edit this on Wikidata
Daeth i ben12 Medi 1920 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganGemau Olympaidd yr Haf 1916 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganGemau Olympaidd yr Haf 1924 Edit this on Wikidata
LleoliadOlympisch Stadion, Antwerp Edit this on Wikidata
GwladwriaethGwlad Belg Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://olympics.com/en/olympic-games/antwerp-1920 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dyma oedd y Gemau Olympaidd cyntaf yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf a cafodd y Gemau eu cynnal yng Ngwlad Belg fel teyrnged i bobl Gwlad Belg. Ohewrwydd sancsiynau yn erbyn y gwledydd cafodd eu beio am gychwyn y rhyfel ni chafodd Yr Almaen Awstria, Bwlgaria, Hwngari na'r Ymerodraeth Otomanaidd wahoddiad i gystadlu. Penderfynodd Yr Undeb Sofietaidd nad oedden nhw am gystadlu.

Y Gemau golygu

Dyma'r Gemau Olympaidd cyntaf lle cafodd Y Llw Olympaidd ei gyhoeddi a'r cyntaf lle cafofdd colomennod gwyn eu rhyddhau yn ystod y Seremoni Agoriadol fel symbol o heddwch. Datgelwyd y Faner Olympaidd am y tro cyntaf hefyd gyda'r pum cylch yn symboleiddio undod y pum cyfandir[1].

Cafwyd wythnos o chwaraeon y gaeaf gyda Sglefrio ffigyrau yn ymddangos am y tro cyntaf ers 1908 a gyda hoci iâ yn ymddangos am y tro cyntaf yn y Gemau.

Medalau'r Cymry golygu

Llwyddodd John Ainsworth-Davis[2] a Cecil Griffiths[3][4] i ennill medal aur yn y ras gyfnewid 4 x 400m a casglodd Paolo Radmilovic ei bedwaredd medal aur wrth sgorio'r gôl fuddugol yn rownd derfynol y Polo dŵr yn erbyn Gwlad Belg[5] gyda Chymro arall, Christopher Jones, hefyd yn yr un tîm[6].

Cyfeiriadau golygu

  1. IOC (2018-04-25). "Antwerp 1920 Summer Olympics - Athletes, Medals & Results". Olympic Channel (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-09.
  2. "John Ainsworth-Davis". Olympedia. Cyrchwyd 8 July 2021.
  3. "Cecil Griffiths". Welsh Athletics Hall of Fame.
  4. Hanna, John (2014). Only Gold Matters: Cecil Griffiths, The Exiled Olympic Champion. Chequered Flag Publishing. ISBN 978-0-9569460-5-8.
  5. "Paul Radmilovic". Sports-Reference.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-18. Cyrchwyd 2016-08-16.
  6. "Christopher Jones". Olympedia.