Gemau Olympaidd yr Haf 1924

Cynhaliwyd Gemau Olympaidd yr Haf 1924 (Ffrangeg: Jeux olympiques d'été de 1924), digwyddiad aml-chwaraeon a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r VIII Olympiad. Cynhaliwyd y Seremoni Agoriadol ar 5 Gorffennaf ond roedd rhaid cystadlaethau wedi cychwyn ers 4 Mai. Dyma'r ail Gemau Olympaidd yr Haf i'w cynnal ym Mharis yn dilyn Gemau 1900 yn golygu mai dyma'r ddinas cyntaf i gynnal Gemau Olympaidd yr Haf ar fwy nag un achlysur.

Gemau Olympaidd yr Haf 1924
Enghraifft o'r canlynolGemau Olympaidd yr Haf Edit this on Wikidata
Dyddiad1924 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd4 Mai 1924 Edit this on Wikidata
Daeth i ben27 Gorffennaf 1924 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganGemau Olympaidd yr Haf 1920 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganGemau Olympaidd yr Haf 1928 Edit this on Wikidata
LleoliadYves du Manoir Stadium Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://olympics.com/en/olympic-games/paris-1924 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Y Gemau golygu

Cafwyd 3,089 o athletwyr - 2,954 o ddynion a 135 o ferched - o 44 o wledydd gwahanol yn cystadlu mewn 17 o gampau gwahanol.[1]

Defnyddiwyd yr arwyddair Citius, Altius, Fortius, sy'n Lladin am "Cyflymach, Uwch, Cryfach" am y tro cyntaf yn ystod Gemau 1924[2] a cafodd yr athletwyr eu lleoli mewn Pentref Olympaidd am y tro cyntaf.

Enillodd yr athletwyr Harold Abrahams ac Eric Liddell y 100m a'r 400m ar ran Prydain Fawr. Gwrthododd Liddell a chystadlu yn y 100m gan fod y ras yn cael ei gynnal ar ddydd Sul ac yntau yn Gristion ymroddedig. Cafodd yr hanes ei adrodd yn y ffilm Chariots of Fire ym 1981.

Cafodd Gweriniaeth Iwerddon ei chydnabod fel gwlad annibynnol o fewn y Mudiad Olympaidd am y tro cyntaf ym Mharis gyda 49 o athletwyr yn cystadlu o dan faner y wlad yn ystod y Gemau.

Cyfeiriadau golygu

  1. (PDF) The Ninth Olympiad. Amsterdam 1928. Official Report (Adroddiad). Archifwyd o y gwreiddiol ar 2008-04-08. https://web.archive.org/web/20080408184510/http://www.la84foundation.org/6oic/OfficialReports/1924/1924.pdf. Adalwyd 2022-01-31.
  2. "Opening Ceremony" (PDF). International Olympics Committee. 2002. t. 3. Cyrchwyd 23 August 2012.