Celf tir

celf sy'n defnyddio tirwedd

Math o gelf weledol yw Celf Tir lle gwneir defnydd o goed, carreg, traethau a'r tiriogaeth yn gyffredinol i roi mynegiant gelfydyddol. Caiff ei adnabod hefyd dan enwau Celf Daear, celf amgylcheddol a gwaith daear (eathworks). Bydd y gwaith yn aml mewn ardaloedd gwledig a gwneir defnydd o ffotograffiaeth a ffilm i gofnodi a hysbysu'r celf a grëwyd.[1]

Celf tir
Enghraifft o'r canlynolsymudiad celf, genre o fewn celf Edit this on Wikidata
Mathart, gwaith celf, gwaith creadigol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Celf Tir, Sultan the Pit Pony a grewyd ar dir tip glo hen bwll Penallta

Cyd-destun

golygu

Daeth celf tir i'r amlwg yn ystod yr 1960-70au yn UDA a Phrydain.[2] Tyfodd y gelfyddyd gyda'r mudiad gwyrdd ac ecolegol ac mae'n rhan o bryder dros ddyfodol trefol a masnachol celfyddyd a bywyd cyfoes.[3]

Yn y 1960au a'r 1970au, datblygodd celf tir fel protest yn erbyn "masnacheiddio difrïol" o gelf yn America.[4] Yn ystod y cyfnod hwn, gwrthododd lladmeryddion celf tir yr amgueddfa neu'r oriel fel lleoliad ar gyfer gweithgaredd artistig. Datblygwyd prosietctau tirlun cofiadwy a ddatblygodd y tu hwnt i gyrraedd cerflunio traddodiadol a'r farchnad gelf fasnachol. Serch hynny, defnyddiwyd ffotograffau i ddogfennu'r celf tir a byddai rheini'n cael eu harddangos mewn orielau confensiynol neu manau cyhoeddus eraill.

Dylanwadau

golygu

Ysbrydolwyd celf tir gan y celf minimal a chelf gysyniadol a hefyd gan symudiadau celf Avant-garde megis De Stijl, Ciwbiaeth, Minimaliaeth, a gwaith Constantin Brâncuşi a Joseph Beuys. Roedd llawer o'r artistiaid bu'n gysylltiedig â chelf tir hefyd yn gysylltiedig â chelf minimal a chysyniadol. Mae dyluniad Isamu Noguchi yn 1941 ar gyfer Contoured Playgroud yn Efrog Newydd weithiau'n cael ei ddehongli fel darn cynnar o gelfyddyd tir er nad yw'r artist ei hun wedi galw'n "gelf tir" ond yn hytrach fel "cerflunwaith".

Mae ei ddylanwad ar gelfyddyd tir cyfoes, pensaernïaeth tirwedd a cherfluniau amgylcheddol yn amlwg mewn llawer o weithiau heddiw.

Celf Tir Cymreig

golygu
 
Parc Penallta - 'Sultan the Pit Pony' o'r ymyl

Ceir enghraifft o gelt tir yng Nghymru ym Mharc Penallta, ar dir hen waith glo Penallta, ger Hengoed yng Nghwm Rhymni. Ei enw yw 'Sultan the Pit Pony' ac mae'n deyrnged i'r merlod bu'n gweithio dan ddaear yn y meysydd glo.

Efallai un o'r gweithiau celf tir Cymreig gwleidyddol mwyaf enwog oedd gwaith yr artists Paul Davies yn greu 'map' o Gymru allan o fwd mewn Eisteddfod genedlaethol.

Ceir enghraifft o ddyluniau o gerbyd Land Rover ar Traeth Coch, Ynys Môn [5] er, efallai nad yw hwn yn ysbryd amgylcheddol a gwrth-fasnachol yr artistiaid cynharaf.

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. mymodernmet.com; adalwyd 30 Awst 2018.
  2. theartstory.org theartstory.org; adalwyd 30 Awst 2018.
  3. artandantiquesmag.com Archifwyd 2018-09-07 yn y Peiriant Wayback adalwyd 30 Awst 2018.
  4. Natural Art. PediaPress.
  5. https://www.sandinyoureye.co.uk/gallery/sand-drawings