Celyn Jones
Mae Celyn Jones (ganwyd 4 Mehefin, 1979) yn actor sydd wedi ymddangos ar y llwyfan, teledu ac mewn ffilmiau. Ei enw iawn yw Barry Jones a magwyd ef yng Nghaergybi lle y mynychodd Ysgol Parch. Thomas Ellis ac Ysgol Uwchradd Caergybi. Bu'n fyfyriwr yn Adran Celfyddydau Perfformio Coleg Menai cyn mynd i astudio yn Ysgol Ddrama Rhydychen.
Celyn Jones | |
---|---|
Ganwyd |
4 Mehefin 1979 ![]() Ynys Môn ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Galwedigaeth |
actor, sgriptiwr ![]() |
Yn 2003 a 2004, ymddangosodd yng nghyfres deledu'r BBC i blant, Grange Hill, yn chwarae rhan athro Saesneg a Hanes o'r enw Mr Steve Green, ac yn fwy diweddar, chwaraeodd ran Snickers yn y ffilm Lassie.