Cennad (cylchgrawn)
Cylchgrawn Cymraeg oedd Cennad: cylchgrawn Y Gymdeithas Feddygol; roedd yn cynnwys erthyglau ar feddygaeth glinigol a chyffredin yng Nghymru.
Enghraifft o'r canlynol | cylchgrawn, cylchgrawn |
---|---|
Cyhoeddwr | Gwasg Gwynedd |
Rhan o | Cylchgronau Cymru Ar-lein |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1980 |
Dechrau/Sefydlu | 1980 |
Lleoliad cyhoeddi | Caernarfon |
Ffurfiwyd Y Gymdeithas Feddygol yn 1975, gyda'r amcan i roi cyfle i feddygon a myfyrwyr meddygol drafod pynciau clinigol trwy gyfrwng y Gymraeg. Ar hyn o bryd, cynhelir un gynhadledd y flwyddyn. Cyhoeddwyd y cylchgrawn Cennad er mwyn cofnodi deunydd clinigol o 1980 hyd at 2003.
Mae'r cylchgrawn wedi ei ddigido yn rhan o brosiect Cylchgronau Cymru Ar-lein gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.