Cenwch y Clychau i Dewi
Cyfansoddwyd geiriau'r gân Cenwch y Clychau i Dewi a adnabyddir hefyd fel Anthem Gŵyl Ddewi gan Gwenno Dafydd rhwng 2005 a pherfformiwyd hi gyntaf yng Ngorymdaith Genedlaethol Gŵyl Dewi, 2006[1] gan Gwenno a Heulwen Thomas a gyfansoddod yr alaw. Dim ond pennill a chytgan yn Gymraeg a Saesneg oedd y gan bryd hynny ond erbyn y flwyddyn dilynol, roedd y gân wedi'i gorffen.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith neu gyfansodiad cerddorol |
---|
Yng Ngorymdaith Genedlaethol Gŵyl Dewi 2007 canwyd hi ar ddechrau'r orymdaith gan ddisgyblion Ysgol Gymraeg Treganna ac ar ddiwedd yr orymdaith gan Ysgol Gynradd Mountstuart, Bae Caerdydd a Gwenno wrth yr Amgueddfa Genedlaethol ym Mharc Cathays. Yn dilyn hyn, lluniwyd Baner Sir Benfro i'w chludo ar flaen yr orymdaith.
Recordiwyd y gân gyntaf ym mis Tachwedd 2007 gan blant Ysgol Penygarth yn yr ysgol gan James Clarke o ‘Ty Cerdd’ (Stiwdio recordio sydd yn rhan o Ganolfan y Mileniwm) gyda Heulwen Thomas yn cyfeilio a chafodd ei lansio yn y Cynulliad ar y 31ain o Ionawr 2008 gan Y Llywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, ym mhresenoldeb Arglwydd Faer Caerdydd, Y Cynghorydd Gill Bird.
Yn dilyn hyn, fe gomisiynwyd Eilir Owen Griffiths, enillydd Medal Aur y Cyfansoddwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008, i wneud 3 threfniant i Gôr Cymysg, Côr Meibion a Chôr Merched ac fe gafodd y fersiynau yma i gyd eu lansio ar 5ed o Chwefror 2009 gan Bryn Terfel a Tim Rhys Evans (Arweinydd ‘Only Men Aloud’).
Y geiriau agoriadol
golyguDewr a doeth ydoedd Dewi
Ei ddwylo yn iacháu
Gwnaeth ef y pethau bychain
Daioni r’oedd e’n hau
(Felly) Dathlwch y dydd i ‘Dewi’
Arwr y Cymry i gyd
Heidiwch i’r cwch fel gwenyn
Ble bynnag yn y byd
Cytgan
Cenwch y clychau i ‘Dewi’
Cenwch nhw mewn coffâd
Cenwch y clychau yn uwch ac yn uwch
Cenwch nhw ar hyd y wlad.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwefan Gorymdaith Genedlaethol Gŵyl Dewi". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-03-03. Cyrchwyd 2012-08-04.