Ciwpid
Duw serch ym mytholeg Rufeinig oedd Ciwpid (Lladin: Cupido). Roedd yn cyfateb i Eros ym mytholeg Roeg ac Amor ym marddoniaeth Lladin. Roedd yn fab i Wener, duwies cariad, a Mercher, negesydd adeiniog y duwiau.[1] Ymddengys mewn celf fel plentyn ag adenydd (ond gall ei oedran amrywio i fod yn llanc ifanc) yn dal bwa a chawell saethau; yn aml mae ganddo fwgwd dros ei lygaid hefyd.[2]
Manylyn o La Primavera gan Sandro Botticelli: Ciwpid â mwgwd dros ei lygaid (uwchben ffigwr Gwener)
Ciwpid yn cwyno wrth Wener gan Lucas Cranach (o chwedl gan Theocritos)[2]
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | duwdod Rhufeinig, duwdod ffrwythlondeb, creadur chwedlonol ![]() |
![]() |
Amor Vincit Omnia gan Caravaggio (yn seiliedig ar ddywediad gan Fyrsil – "Mae cariad yn trechu'r cyfan")[2]
Ciwpid a Psyche gan Antonio Canova (o chwedl gan Apuleius)[2]