Safle o Oes yr Efydd yw'r Cerrig Duon a leolir i'r de o Lyn y Fan Fawr, yng nghymuned Tawe Uchaf yn ardal Brycheiniog, Powys.

Cylch Cerrig: Cerrig Duon
Cylch Cerrig: Cerrig Duon
Cerrig Duon
Cylch Cerrig: Cerrig Duon
Cylch y Cerrig Duon gyda'r Maen Mawr.

Ceir cylch cerrig (meini hirion), maen hir unigol a rhodfa gynhanesyddol ar y safle, sy'n gorwedd ar lan orllewinol Afon Tawe. Y nodwedd fwyaf trawiadol yw'r garreg a elwir y Maen Mawr, ar ymyl ogleddol y cylch cerrig ei hun ond yn gysylltiedig â fo. Mae'r garreg yn mesur 1.9 metr o'i gwaelod i'w phen gyda lled o 1.3 metr. Mae'n pwyntio i gyfeiriad canol y cylch cerrig gyda dau faen bychain y tu ôl iddo.

Mae'r cylch cerrig ei hun yn mesur tua 18 metr ar draws ac yn cynnwys tua 20 o gerrig hyd at 0.6 metr o hyd.

Mae rhodfa neu lwybr a ddiffinir gan ddwy res o gerrig bychain gyda'i hwynebau i lawr yn arwain i'r cylch. Ymddengys iddynt gael eu gosod ar gyfer pwrpas defodol.

Y ffordd hawsaf i gyrraedd y safle yw o'r A40 rhwng Aberhonddu a Llanymddyfri, ond rhaid cerdded tir gwlyb i gyrraedd y cerrig. Cyfeirnod OS: SN851206.

Ffynhonnell

golygu
  • Helen Burnham, Clwyd and Powys, 'A Guide to Ancient and Historic Wales' (HMSO, Llundain, 1995), tud. 36.