Cerrig llam
cerrig a ddefnyddir i groesi afon
Rhes o gerrig dros afon yw cerrig llam (hefyd cerrig sarn).[1] Fel rheol maent yn rhes o gerrig gwastad a osodwyd yn fwriadol yng ngwely'r afon lle mae'r dŵr yn fas a'r llif yn araf er mwyn hwylustod i'w chroesi. Yn aml maent wedi'u gosod mewn rhyd neu gerllaw iddi.
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Math | pont droed, pont garreg, Rhyd ![]() |
Deunydd | carreg, ashlar ![]() |
![]() |
Mae rhai cerrig llam yn hynafol ac yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol cyn i bontydd gael eu dyfeisio. Ond gall cerrig llam fod yn ddiweddarach hefyd. Gosodwyd rhai yn eu lle yn yr Oesoedd Canol a cheir enghraifft yn Wilton Park yn Wiltshire, De-orllewin Lloegr, o gerrig llam yn cael eu gosod ar fframiau pren yn y 19eg ganrif.[2]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol II, tud. 2092.
- ↑ Eric S. Wood, Collins Field Guide to Archaeology in Britain (Collins, 1963), tud. 263.