Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd

Safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru

Safle Treftadaeth y Byd yng Nwynedd ac Ynys Môn ydy Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd. Cafodd ei ddynodi gan UNESCO yn 1986. Mae'n cynnwys y pedwar cestyll Edward I, brenin Lloegr, ym Miwmares, Conwy, Caernarfon a Harlech a'r trefi caerog yng Nghonwy a Chaernarfon.

Cestyll a Muriau Trefi Edward I yng Ngwynedd
Mathgrwp o adeiladau neu strwythurau diwydiannol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1280s Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd6 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1397°N 4.2769°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion

Mae rhai o gestyll godidocaf Cymru yn ein hatgoffa o gyfnod cythryblus, pan arferai brenhinoedd Lloegr a thywysogion Cymru gystadlu am bŵer.

Mae UNESCO o'r farn mai'r pedwar castell a'r trefi caerog yw'r enghreifftiau gorau yn Ewrop o bensaernïaeth filwrol yn dyddio o ddiwedd y 13g a dechrau'r 14g, fel y dangosir trwy eu cyflawnder, eu cyflwr digyfnewid, eu tystiolaeth ynghylch gofod mewnol trefnedig, ac amrediadrhyfeddol eu ffurfiau bensaernïol canoloesol.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Castles and Town Walls of King Edward in Gwynedd". UNESCO World Heritage Centre. UNESCO. Cyrchwyd 31 Mai 2019.

Dolen allanol

golygu