Cetura

un o wragedd Abraham yn yr Hen Destament

Roedd Cetura (Hebraeg: קְטוּרָה,, o bosib yn golygu arogldarth) yn ordderchwraig [1] ac wedyn yn wraig i'r patriarch Beiblaidd Abraham. Yn ôl Llyfr Genesis, priododd Abraham â Cetura ar ôl marwolaeth ei wraig gyntaf, Sara.[2] Roedd gan Abraham a Cetura chwe mab. Enwau'r meibion oedd Simran, Jocsan, Medan, Midian, Isbac a Sua.[3] Daeth y chwe mab yn sylfaenwyr chwe llwyth Arabaidd a sefydlodd i'r de a'r dwyrain o Balestina.[4]

Cetura
DinasyddiaethCymeriad Beiblaidd
PriodAbraham Edit this on Wikidata
PlantSimran, Jocsan, Medan, Midian, Isbac, Sua Edit this on Wikidata

Mae nifer o sylwebyddion Iddewig wedi honni mae un person yw Cetura ac Aga, morwyn Sara a gordderchwraig Abraham.[5] Cafodd Aga ei throi allan o dylwyth Abraham oherwydd cenfigen Sara. Yr honiad yw ei bod wedi dychwelyd, o dan enw gwahanol, wedi marwolaeth Sara. Mae'r mwyafrif o sylwebyddion Cristionogol yn dweud bod Aga a Centura yn ddwy fenyw wahanol.

Mae ymlynwyr y ffydd Bahá'í yn credu bod eu sylfaenydd, Bahá'u'lláh, yn un o ddisgynyddion Cetura a Sara.[6]

Cyfeiriadau golygu

Lle fo cyfeiriad yn destun Beiblaidd, bydd dilyn y cysylltiad yn mynd at rifyn Beibl William Morgan Cymdeithas Feiblaidd Prydain a Thramor, 1992 ar wefan Bible Gateway. Am destun mwy cyfoes gellir chwilio am yr un adnodau ar dudalen chwilio Beibl Net
  1. 1 Cronicl 1:32
  2. The Israel Bible – Keturah[dolen marw] adalwyd 29 Awst 2020
  3. Genesis 25:1 a Genesis 25:6
  4. Jewish Virtual Library – Keturah adalwyd 29 Awst 2020
  5. Parashat Hayye Sarah 5764/ Tachwedd 22, 2003 - Who was Ketura? Archifwyd 2020-08-09 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 29 Awst 2020
  6. Hatcher, W.S.; Martin, J.D. (1998). The Bahá'í Faith: The Emerging Global Religion. Wilmette, IL: Bahá'í Publishing Trust. ISBN 0877432643.


Gweler hefyd golygu

Rhestr o fenywod y Beibl