Nofel Gymraeg gan E. Morgan Humphreys yw Ceulan y Llyn Du (teitl llawn: Ceulan y Llyn Du [:] Stori ddirgelwch). Fe'i cyhoeddwyd yn 1944 yn y gyfres Llyfrau Pawb.

Ceulan y Llyn Du
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata

Stori dditectif i blant hŷn ond sy'n addas i oedolion hefyd yw'r nofel hon. Fel yn y nofel gynharach Dirgelwch Gallt y Ffrwd (1938), mae'n stori am griw o ladron gemau mewn lle tawel diarffordd. Mae'r "gweilch" hyn yn cael eu rhwystro a'u dal yn y diwedd gan yr Inspector John Aubrey, prif gymeriad Dirgelwch Gallt y Ffrwd ac sy'n ymddangos hefyd mewn nofel dditectif ddiweddarach, sef Llofrudd yn y Chwarel (1951).[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Bedwyr Lewis Jones, 'Edward Morgan Humphreys', yn Dewiniaid Difyr, gol. Mairwen a Gwynn Jones (Gwasg Gomer, 1983).


Llyfrau E. Morgan Humphreys  
Ceulan y Llyn Du | Dirgelwch Gallt y Ffrwd | Dirgelwch yr Anialwch | Yr Etifedd Coll | Y Llaw Gudd | Llofrudd yn y Chwarel | Rhwng Rhyfeloedd



  Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.