Dirgelwch yr Anialwch

Cyfrol o waith Edward Morgan Humphreys a gyhoeddwyd yn Swyddfa Cymru, Caernarfon, 1911 yw Dirgelwch yr Anialwch. Ei deitl llawn yw,

Clawr darluniedig Dirgelwch yr Anialwch (Cwmni y Cyhoeddwyr Cymreig, Swyddfa "Cymru", Caernarfon, 1911)
DIRGELWCH YR ANIALWCH / ac / Ystraeon Ereill. / gan / E. Morgan Humphreys.

Mae'r gyfrol yn cynnwys wyth stori fer dychmygol ac iddynt gefndir hanesyddol neu led-hanesyddol. Lleolir yr anturiaethau yng Nghymru a thros y môr. Er eu bod braidd yn hen-ffasiwn i ddarllenwyr ar ddechrau'r 21g ar y pryd roeddynt yn ychwanegiad cyffrous a gwerthfawr i lenyddiaeth plant Cymru. Dyma'r wyth stori:

"Dirgelwch yr Anialwch"
"Y Ddau Frawd"
"Gorchest Wil Ifan"
"Mab Llwyn y Ceirw"
"Y Llong a'r Goeden"
"Ar y Ffordd Ddu"
"Dial y Cymry"
"Croesaw Rhys Morus"

Mae'r llyfr yn gyfrol ddeniadol iawn, gyda chlawr lliwgar trawiadol a darluniau du a gwyn gan S. Maurice Jones ac Arthur E. Elias, dau arlunydd a gyfrannai'n gyson i gyhoeddiadau poblogaidd O.M. Edwards, Cymru, Cyfres y Fil a Cymru'r Plant.


Llyfrau E. Morgan Humphreys
Ceulan y Llyn Du | Dirgelwch Gallt y Ffrwd | Dirgelwch yr Anialwch | Yr Etifedd Coll | Y Llaw Gudd | Llofrudd yn y Chwarel | Rhwng Rhyfeloedd