Llofrudd yn y Chwarel
Nofel Gymraeg gan E. Morgan Humphreys yw Llofrudd yn y Chwarel (teitl llawn: Llofrudd yn y Chwarel [:] Un o anturiaethau John Aubrey). Fe'i cyhoeddwyd yn 1951 gan Wasg y Brython, Lerpwl.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
Stori dditectif i blant hŷn ond sy'n addas i oedolion hefyd yw'r nofel hon. Fel yn y nofelau cynharach Dirgelwch Gallt y Ffrwd (1938) a Ceulan y Llyn Du (1944), prif gymeriad y stori yw'r Inspector John Aubrey, "Sherlock Holmes" y nofel dditectif Gymraeg.
Mae'n stori gyffro am lofrudd ar ffo mewn lle tawel diarffordd a'r plismyn a John Aubrey ar ei ôl. Bernir gan rai fod y cynllun yn wan a'r cyffro yn ddof mewn cymhariaeth â'r nofelau cynharaf. Dyma'r nofel olaf a gyhoeddodd yr awdwr, a hynny dwy flynedd cyn ei farwolaeth yn 1953.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Bedwyr Lewis Jones, 'Edward Morgan Humphreys', yn Dewiniaid Difyr, gol. Mairwen a Gwynn Jones (Gwasg Gomer, 1983).
Llyfrau E. Morgan Humphreys | |
---|---|
Ceulan y Llyn Du | Dirgelwch Gallt y Ffrwd | Dirgelwch yr Anialwch | Yr Etifedd Coll | Y Llaw Gudd | Llofrudd yn y Chwarel | Rhwng Rhyfeloedd |