Harold Finch

gwleidydd Llafur

Gwleidydd o Gymru oedd Syr Harold Josiah Finch (2 Mai 1898 - 16 Gorffennaf, 1979). Roedd yn undebwr a gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Llafur Bedwellte rhwng 1950 a 1970.

Harold Finch
Ganwyd2 Mai 1898 Edit this on Wikidata
y Barri Edit this on Wikidata
Bu farw16 Gorffennaf 1979 Edit this on Wikidata
Ysbyty Sant Gwynllŵg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

Cafodd Finch ei eni yn Y Barri yn 1898 yn fab i Josiah Coleman Finch, arolygwr rheilffyrdd, ac Emmie (née Keedwell) ei wraig.

Cafodd ei addysgu yn ysgol elfennol y Barri, gan ymadael a'r ysgol yn 14 mlwydd oed.

Ym 1922 priododd Gladys, merch Arthur Hinder, bu iddynt un mab ac un ferch.

Undebwr llafur golygu

Wedi ymadael a'r ysgol cafodd swydd fel clerc gyda Chwmni Rheilffyrdd y Barri. Wedi cyfnod yn y Coleg Llafur Canolog [1] dechreuodd ei gysylltiad â Ffederasiwn Glowyr de Cymru ym 1919 pan benodwyd ef yn ysgrifennydd ardal Tredegar o'r Ffederasiwn. Ym 1935 fe'i penodwyd yn ysgrifennydd i ardal De Cymru o Undeb Cenedlaethol y Glowyr. Rhwng 1951 a 1960 roedd yn aelod o Bwyllgor Gwaith Undeb Cenedlaethol y Glowyr.

Gyrfa Wleidyddol golygu

Etholwyd Finch i Gyngor Mynyddislwyn ym 1922, gan wasanaethu fel cadeirydd y cyngor am dymor 1932-1933. Wedi i Syr Charles Edwards ymddeol o'r senedd ar adeg etholiad cyffredinol 1950 dewiswyd Finch yn olynydd iddo fel ymgeisydd Llafur ar gyfer sedd Bedwellte. Cadwodd y sedd gyda 83% o'r bleidlais.

Etholiad cyffredinol 1950: Bedwellte

Etholfrain: 40,370,

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Harold Finch 31,329 83.4
Ceidwadwyr RC Pitman 6,247 16.6
Mwyafrif 25,082
Y nifer a bleidleisiodd 85.5
Llafur yn cadw Gogwydd

Yn y senedd gwasanaethodd fel llefarydd yr wrthblaid ar ynni ac egni rhwng 1959 a 1960. Roedd yn ysgrifennydd Grŵp Seneddol y Glowyr rhwng 1964 a 1966, a fu'n cadeirydd y Blaid Seneddol Gymreig. Fe'i penodwyd yn weinidog pan sefydlwyd y Swyddfa Gymreig ym mis Hydref 1964.[2] Ymddeolodd o'r Senedd ar adeg etholiad cyffredinol 1970.

Cafodd ei ddyrchafu yn farchog yn rhestr anrhydeddau pen-blwydd y frenhines ym 1969 am ei wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.[3]

Marwolaeth golygu

Bu farw yn Ysbyty Sant Gwynllŵg Casnewydd o grebachiad cerebrol yn 81 mlwydd oed.[4]

Cyhoeddiadau golygu

  • Memoirs of a Bedwellty M.P., Starling Press Limited 1 Mai 1972 (Hunangofiant)

Cyfeiriadau golygu

  1. J Graham Jones Welsh Labour Politicians in the Inter-war Years. Trafodion Anrhydeddus Cymdeithas y Cymrodorion 1983, Tud 174 adalwyd 7 Mawrth 2019
  2. Y Traethodydd Cyfrol CXXXVIII 1983 Trafod materion Cymraeg yn y Senedd adalwyd 7 mawrth, 2019
  3. Anhysbys 1976, Jun 12. Birthday Honours. The Guardian (1959-2003), 6. ISSN 02613077.
  4. Copi Dilys o Gofnod Marwolaeth Rhif 1453251/1 Dosbarth Cofrestru Casnewydd, Sir Gwent. 17/7/1979
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Syr Charles Edwards
Aelod Seneddol dros Bedwellte
19501970
Olynydd:
Neil Kinnock