Dyffryn yn ne Cymru sy'n cael ei ffurfio gan Afon Sirhywi yw Dyffryn Sirhywi.

Dyffryn Sirhywi
Pen-deri farm. Argoed, Caerphilly - geograph.org.uk - 70713.jpg
Golygfa yn Nyffryn Sirhywi ger Argoed
Math dyffryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.779°N 3.233°W Edit this on Wikidata

Mae Afon Sirhywi yn tarddu ar lethrau Cefn Pyllau-duon uwchlaw Tredegar, ac yn llifo tua'r de trwy dref Tredegar ac yna Coed Duon a Pontllanfraith. Mae'n troi i'r dwyrain gerllaw Cwmfelinfach ac yn llifo i Afon Ebwy ger Crosskeys.

Roedd diwydiannau haearn a glo pwysig yma ar un adeg. Y diwydiant haearn a ddatblygodd gyntaf, gan arwain at gynnydd yn y galw am lo, a datblygiad nifer o lofeydd. Roedd y Tredegar Iron and Coal Company yn arbennig o bwysig, ond ceid glofeydd ar hyd y dyffryn, yn cynnwys Glofa Wyllie, Glofa Nine Mile Point a Glofa Oakdale.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Alun Davies (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Nick Smith (Llafur).[1][2]

CyfeiriadauGolygu

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  Eginyn erthygl sydd uchod am Flaenau Gwent. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.