Charles Francis Greville

sylfaenydd porthladd Aberdaugleddau

Hynafiaethwr, casglwr a gwleidydd oedd Charles Francis Greville PC FRS FRSE FLS FSA (12 Mai 1749 - 23 Ebrill 1809) a fu'n aelod o Dŷ'r Cyffredin rhwng 1774 a 1790.[1]

Charles Francis Greville
Ganwyd12 Mai 1749 Edit this on Wikidata
Bu farw23 Ebrill 1809 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaetharlunydd, gwleidydd, person busnes Edit this on Wikidata
SwyddTreasurer of the Household, Vice-Chamberlain of the Household, Aelod o 14eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 15fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 16eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 13eg Senedd Prydain Fawr Edit this on Wikidata
TadFrancis Greville Edit this on Wikidata
MamElizabeth Hamilton Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Roedd Greville yn ail fab i Francis Greville, Iarll 1af Warwick a'i wraig, Elizabeth Hamilton, merch yr Arglwydd Archibald Hamilton. Roedd George Greville, 2il Iarll Warwick a Robert Fulke Greville yn frodyr iddo ac roedd ganddo bedair chwaer. Cafodd ei fagu yng nghartref y teulu, Castell Warwick.

Roedd ei dad wedi cael ei ddyrchafu'n Iarll Brooke dair blynedd cyn iddo gael ei eni ac ym 1759 roedd wedi deisebu’n llwyddiannus i gael teitl canoloesol mawreddog llinell ddiflanedig o'i deulu, Iarll Warwick, a roddwyd iddo fel etifedd gwrywaidd hŷn y teulu ac Arglwydd Raglaw'r sir.

Cafodd ei addysgu ym Mhrifysgol Caeredin rhwng 1764 a 1767.[2]

Casgliadau celf golygu

Gwaith celf glasurol a dadeni golygu

Roedd Greville yn byw am y rhan fwyaf o'i oes fel oedolyn ar incwm anhyblyg o 500 y flwyddyn, wedi'i gynhyrchu o dirfeddiant a buddsoddiadau. Roedd ei incwm yn caniatau iddo i gaffael hynafiaethau gan Gavin Hamilton yn Rhufain. Prynodd hefyd, trwy ei ewythr, ddarn genre gan Annibale Carracci.[3] Roedd Greville yn nai i Syr William Hamilton, llysgennad Prydain yn Napoli a ffurfiodd ddau gasgliad o fasys Groegaidd, mae un ohonynt yn yr Amgueddfa Brydeinig.

Cerrig a mwynau golygu

Fel Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, roedd ei ddiddordeb arbennig mewn mwynau a cherrig gwerthfawr, a gatalogiwyd gan yr émigré Jacques Louis, Comte de Bournon ac a brynwyd yn ddiweddarach trwy Ddeddf Seneddol gan yr Amgueddfa Brydeinig. Roedd yn ffrindiau da gyda James Smithson, a chefnogodd ei gais ar gyfer aelodaeth o'r Gymdeithas Frenhinol bu hefyd yn gyfnewid mwynau ag ef.[4]

Garddwriaeth golygu

Am flynyddoedd bu Greville yn ffrind agos iawn i Syr Joseph Banks ac, fel yntau, roedd yn aelod o'r Gymdeithas Dilettanti. Aeth gyda Banks i'r cyfarfod trefnu ym mis Mawrth 1804 o ragflaenydd y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol, sef y Gymdeithas er Gwella Garddwriaeth.[5]

Portreadau o Emma Hart (yr Arglwyddes Emma Hamilton yn ddiweddarach) golygu

Rhoddodd Greville yr enw "Amy Lyon" i Mrs Emma Hart pan ddechreuodd cael perthynas â hi fel ei feistres ym 1782. Cynorthwyodd i'w haddysgu, ac aeth â hi i stiwdio George Romney, lle'r oedd yn eistedd am ei bortread ei hun. Cafodd Romney ei swyno gyda'r Emma hardd, a phaentiodd "luniau ffansi" alegorïaidd o Emma mewn sawl ffurf pedwar deg pump o weithiau.[6][7]

Gyrfa wleidyddol golygu

Pan fu farw ei dad ym 1773 a daeth ei frawd yn Iarll Warwick, i bob pwrpas etifeddodd Greville sedd senedd ei frawd (un o ddau oedd yn eiddo i Warwick ) yn Nhŷ’r Cyffredin. Daliodd y sedd tan 1790. Gwasanaethodd fel Arglwydd y Trysorlys rhwng 1780 a 1782, fel Trysorydd yr Aelwyd rhwng 1783 a 1784 ac fel Is-Siambrlen yr Aelwyd rhwng 1794 a 1804 a thyngwyd ef yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ym 1783.

Aberdaugleddau golygu

 
Arsyllfa Hakin

Adeiladwyd porthladd Aberdaugleddau, Sir Benfro oherwydd ysbryd entrepreneuraidd Greville. Pan oedd yn eiddo i Syr William Hamilton, gwnaeth Greville gais am Ddeddf Seneddol i alluogi Hamilton a'i etifeddion i wneud dociau, adeiladu ceiau, sefydlu marchnadoedd, gyda ffyrdd a rhodfeydd i'r porthladd, i reoleiddio'r heddlu, a'i gwneud y lle ar gyfer trosglwyddo'r post.[8] Y strwythur cyntaf oedd tafarn hyfforddi. Cafodd perchnogion llongau hela morfilod y Crynwyr [9] o Nantucket eu cymell i ymgartrefu yn y dref, ac am rai degawdau roedd Aberdaugleddau yn borthladd morfilod. Sefydlwyd iard longau brenhinol yn y porthladd yn ystod Rhyfeloedd Napoleon.[10] Ar ei farwolaeth ym 1803, gadawodd Hamilton ef i'w nai.[11]

Mewn safle ar dir uchel yn Hakin gerllaw, roedd Greville yn bwriadu adeiladu Coleg y Brenin Siôr y Trydydd i ganiatáu astudio mathemateg a llywio, y byddai ei ganolbwynt yn arsyllfa. Er i'r arsyllfa gael ei hadeiladu, a chaffael cyfarpar ac offerynnau gwyddonol ar ei chyfer, ni weithredodd y coleg ac ar ôl marwolaeth Greville ym 1809 rhoddwyd y gorau i'r prosiect yn gyfan gwbl.[12]

Bywyd personol golygu

Ni phriododd Greville erioed, ond bu mewn cysylltiad ag Emma Hamilton am sawl blwyddyn pan erfyniodd am ei gymorth ar ôl beichiogi gyda phlentyn Syr Harry Fetherstonhaugh ym 1782 a'i gwrthod ganddo. Cymerodd Greville hi i mewn ar yr amod bod y plentyn, Emma Carew, yn cael ei maethu allan, a daeth Emma Hamilton yn feistres iddo. Yn ddiweddarach, helpodd i drefnu cyfarfod a phriodas ddilynol gyda'i ewythr Syr William Hamilton, efallai mewn ymgais i ennill ei ffafr a hefyd i glirio'r ffordd iddo (Greville) ddod o hyd i wraig gyfoethog.[7]

Bu’n byw am flynyddoedd mewn tŷ roedd wedi’i adeiladu yn wynebu Paddington Green, ar y pryd pentref ar gyrion Llundain, nid nepell o’r tŷ roedd wedi gosod Emma a’i mam ynddo. Cadwodd luniau Romney o Emma ar waliau ei dŷ hyd ei farwolaeth.[7] Yno, mynegodd ei angerdd am arddio mewn gardd fawr a ddarparwyd â thai gwydr lle tyfodd lawer o blanhigion trofannol prin, gyda chymorth ei gysylltiad â Banks. Llwyddodd i gymell Vanilla planifolia i flodeuo yno am y tro cyntaf o dan wydr, yng ngaeaf 1806 –07.[13] Mae ei gyfraniadau i'r llysieufa a gasglwyd gan Syr James Edward Smith yn cael eu cadw gan Gymdeithas Linnaean Llundain.[14] Enwir y genws Awstralasiaidd Grevillea er anrhydedd iddo.

Yn rhan olaf ei fywyd bu'n byw yng Nghastell Warwick. Bu farw ar 23 Ebrill 1809, yn 58 oed.[15]

Cydnabod golygu

Enwir Grevillea, genws amrywiol o tua 360 o rywogaethau o blanhigion blodeuol bytholwyrdd yn y teulu Proteaceae, ar ei ôl oherwydd ei rôl fel noddwr botaneg a chyd-sylfaenydd y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol.[16] Enwyd Ynys Greville, ar Ynys y De Seland Newydd, er anrhydedd iddo gan Francis Barrallier, ym 1820.[17]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Greville, Charles Francis (1749–1809), mineralogist and horticulturist | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-40496. Cyrchwyd 2019-08-28.
  2. Biographical Index of Former Fellows of the Royal Society of Edinburgh 1783–2002 (PDF). The Royal Society of Edinburgh. July 2006. ISBN 0 902 198 84 X. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-01-24. Cyrchwyd 2019-08-28.
  3. Mae bellach yn yr Amgueddfa Gelf Metropolitan yn Ninas Efrog Newydd: Two Children Teasing a Cat, yn cael ei briodoli i Annibale Carracci.
  4. Heather Ewing, The Lost World of James Smithson: Science, Revolution, and the Birth of the Smithsonian, (New York and London: Bloomsbury, 2007), pp. 118, 127–37.
  5. Tim Ecott, and Hubert Selby, Vanilla: Travels In Search Of The Ice Cream Orchid (Grove Press) 2005, pp 84ff.
  6. (Fitzgerald Molloy, Sir Joshua and His Circle (Hutchinson) 1906, vol. II p. 490).
  7. 7.0 7.1 7.2 Williams, Kate (2009). England’s Mistress: The Infamous Life of Emma Hamilton (arg. Large Print). BBC Audiobooks Ltd by arr. with Random House. ISBN 9781408430781.
  8. Rees, J. F., (1953). GREVILLE, CHARLES FRANCIS (1749-1809), sylfaenydd tref Milford, sir Benfro. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 28 Awst 2019, o https://bywgraffiadur.cymru/article/c-GREV-FRA-1749
  9. Stephen Griffith A History of Quakers in Pembrokeshire, Gwasg Gomer, 1990, pp18-26
  10. 'Michael-Church – Monkton', A Topographical Dictionary of Wales (1849), pp. 213–23. URL: [1] adalwyd 28 Awst 2019
  11. Mae J. F. Rees, The Story of Milford, (Gwasg Prifysgol Cymru) 1954, yn manylu ar yr ymdrechion aflwyddiannus i raddau helaeth i greu porthladd cystadleuol i Lerpwl.
  12. "Astronomical Observatories in Wales". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-05. Cyrchwyd 28 Awst 2019.
  13. Ecott and Selby 2005:87.
  14. John Edmondson and Claire Smith, "The Linnean Society's Smith Herbarium: A Resource for Eighteenth-Century Garden History Research" Garden History 27.2 (Winter 1999:244–252) p. 249 (list).
  15. Biographical Index of Former Fellows of the Royal Society of Edinburgh 1783–2002 (PDF). The Royal Society of Edinburgh. July 2006. ISBN 0 902 198 84 X. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-01-24. Cyrchwyd 2019-08-28.
  16. "Grevillea maccutcheonii". The Australian Native Plants Society (Australia). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-03-17. Cyrchwyd 2018-05-30.
  17. "Ernest Favenc, The History of Australian Exploration, pennod 18". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-29. Cyrchwyd 2019-08-28.