Agor y brif ddewislen

Siarl Martel (23 Awst 68622 Hydref 741) oedd Maer y Llys yn nheyrnas Ffrancaidd Awstrasia o'r flwyddyn 715 hyd ei farwolaeth. Mae'n fwyaf enwog am ei fuddugoliaeth ym Mrwydr Tours yn erbyn byddin Fwslemaidd.

Siarl Martel
Charles-Martel.jpg
Ganwyd Herstal Edit this on Wikidata
Bu farw Quierzy Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Francia Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Gwladweinydd, arweinydd militaraidd Edit this on Wikidata
Swydd Maer y Llys, Maer y Llys Edit this on Wikidata
Tad Pepin of Herstal Edit this on Wikidata
Mam Alpaida Edit this on Wikidata
Priod Rotrude of Trier, Ruodhaid, Swanachild Edit this on Wikidata
Plant Carloman, Pepin Fychan, Hiltrud, Landrada, Auda of France, Bernard, son of Charles Martel, Grifo, Hieronymus, Remigius of Rouen Edit this on Wikidata
Llinach Arnulfings, Y Carolingiaid Edit this on Wikidata
Brwydr Tours yn Hydref 732, gan Charles de Steuben (Amgueddfa Versailles, Ffrainc)

BywgraffiadGolygu

Roedd Siarl yn fab gordderch i Pepin de Heristal a'i ordderch Alpaïde de Bruyères. Ar farwolaeth ei dad yn (714), cymerodd Siarl ei le fel Maer y Llys. Deilydd y swydd yma oedd yn rheoli'r deyrnas mewn gwirionedd; swyddogaeth seremonïol yn unig oedd gan y brenin. Nid oedd Plectrude, gwraig Pepin, yn barod i dderbyn hyn, a llwyddodd i garcharu Siarl, gan reoli ei hun dros ei mab chwech oed, Thiaud. Cododd nifer o daleithiau mewn gwrthryfel mewn ymateb i'r syniad o gael eu rheoli gan wraig, a cymerodd teyrnas Neustria fantais i orchfygu Austrasia mewn brwydr.

Llwyddodd Siarl i ddianc o'r carchar. Gorchfygodd y Neustraid mewn dwy frwydr a gorfododd Plectrude a'i mab i ildio. Erbyn 720 yr oedd wedi uno tiriogaethau'r Ffranciaid yn un deyrnas. Yn 719 gorchfygodd Radbod, brenin y Ffrisiaid a gwneud Ffrisia yn rhan o Ymerodraeth y Ffranciaid.

Yn 732 bu raid i Martel wynebu byddin Fwslemaidd dan reolwr Al-Andalus, Abdul Rahman Al Ghafiqi. Diweddodd Brwydr Tours mewn buddugoliaeth fawr i'r Cristionogion, gyda Abdul Rahman ei hun ymhlith y lladdedigion. Mae nifer o haneswyr yn ystyried i'r frwydr yma fod yn un o'r rhai mwyaf tyngedfennol yn hanes Ewrop, ac y gallai Ewrop oll fod wedi dod yn rhan o'r byd Islamaidd onibai am fuddugoliaeth Martel. Rhwng 735 a 737 enillodd Martel nifer o fuddugoliaethau eraill dros yr Arabiaid yn ne Ffrainc.

OlyniaethGolygu

Bu Siarl Martel farw yn Quierzy ar 22 Hydref 741. Rhannwyd ei diroedd rhwng ei ddau fab:

  • Carloman, a gafodd Austrasia, Alemania a Thuringia
  • Pepin Fychan, a gafodd Neustrasia, Borgona a Profens.

CyfeiriadauGolygu