Charles Symmons
Roedd Y Parchedig Dr Charles Symmons DD (1749 – 25 Ebrill, 1826), yn llenor ac offeiriad o Gymru.[1]
Charles Symmons | |
---|---|
Ganwyd | 1749 Aberteifi |
Bu farw | 27 Ebrill 1826 Caerfaddon |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, offeiriad Anglicanaidd, cyfieithydd |
Tad | John Symmons |
Priod | Elizabeth Foley |
Plant | John Symmons |
Cefndir
golyguGanwyd Symmons yn Aberteifi, yn fab iau John Symmons (1701–1764) a'i wraig, Maria née Phillips merch Charles Phillips o Lanisan-yn-Rhos, Sir Benfro. Gwasanaethodd ei dad fel AS etholaeth Aberteifi rhwng 1746 a 1761.[2]
Cafodd ei addysgu yn Ysgol Westminster, Prifysgol Glasgow a Phrifysgol Caergrawnt. Cofrestrodd yn Lincolns's Inn ym 1765, ond ni chafodd ei alw i'r bar.[3]
Gyrfa glerigol
golyguOrdeiniwyd Symmons yn ddiacon gan esgob Tŷ Ddewi yn Abergwili ar 15 Awst 1773, ac ordeiniwyd ef yn offeiriad ar 14 Awst 1774. Fe'i penodwyd yn rheithor Arberth a Chapel Robeston, Sir Benfro ar 13 Awst 1778. Fe'i penodwyd i stondin Prebendari Clydau yn Eglwys Gadeiriol Tŷ Ddewi 11 Hydref 1789.[4]
Aeth Symmons i Brifysgol Caergrawnt ym 1793 i astudio ar gyfer Doethuriaeth mewn Diwinyddiaeth (DD). Roedd arholiad derfynol y cwrs yn cynnwys pregethu dwy bregeth, un yn Saesneg, a'r llall yn Lladin, gerbron aelodau'r brifysgol yn Eglwys Fawr y Santes Fair. Gyda theimladau teyrngarol yn cynyddu nid oedd cefnogaeth Symmons i gredoau Chwig cymedrol yn ei bregeth Saesneg yn boblogaidd iawn. (Roedd y Chwigiaid yn credu mewn goddefgarwch i Brotestaniaid, Anghydffurfwyr a Sentars, tra bod eu gwrthwynebwyr, y Torïaid yn cefnogi goruchafiaeth absoliwt yr eglwys sefydledig ym mhob mater crefyddol). Benthycodd un o'i wrthwynebwyr gwleidyddol, Thomas Kipling, dirprwy athro regius diwinyddiaeth a darlithydd Boyle y brifysgol, nodiadau'r bregeth o dan dwyll. Danfonodd Kipling ddarnau o'r bregeth, wedi eu tynnu allan o'u cyd-destun, at Samuel Horsley, esgob Tŷ Ddewi ac eraill. Atebodd Symmons trwy gyhoeddi llythyr gwaradwyddus i Kipling (argraffwyd a dosbarthwyd hanner cant o gopïau). Roedd yn teimlo bod parhau a'i doethuriaeth yng Nghaergrawnt wedi ei wneud yn amhosibl. Symudodd i Goleg yr Iesu, Rhydychen ar 29 Mawrth 1794 ac enillodd ei DD ddeuddydd yn ddiweddarach.[5] Roedd yn ymddangos bod ei bregeth wedi andwyo gobeithion Symmons o ffafriaeth bellach. Bu gwrthwynebiad i ymgais Windham i sicrhau rheithoriaeth Llanddewi Efelffre ar ei gyfer. Ond llwyddodd i gael y rheithoriaeth gyda chryn anhawster ym 1794. Cadwodd Symmons bywoliaethau enillfawr Arberth a Llanddewi Efelffre hyd ei farwolaeth.
Gyrfa Lenyddol
golyguRoedd Symmons yn ysgolhaig da ac yn ddyn o sgiliau llenyddol diamheuol. Roedd yn neilltuo'r rhan fwyaf o'i oriau hamdden yn ei dŷ yn Chiswick i'r gorchwylion hyn. Mae gweithiau cynharaf Symmons yn cynnwys cyfrol o bregethau dyddiedig 1787; Inez , trasiedi anhysbys ym 1796 a Constantia, cerdd ddramatig ym 1800. Wedi hynny, fe wnaeth colledion teuluol arafu ei allbwn. Cafodd Symmons ei llethu gan alar ar ôl i'w ferch Caroline farw o’r diciâu ar 1 Mehefin 1803, yn bedair ar ddeg oed, ac yna ei fab Charles, un ar hugain oed, ym mis Mai 1805. Cyhoeddodd Poems for the Anniversary of the Literary Fund, a oedd yn cynnwys cerddi gan Caroline, mewn teyrnged iddi ym 1813.
Roedd gwaith llenyddol mwyaf nodedig Symmons yn cynnwys Life of Milton fel rhagair i argraffiad saith cyfrol o waith Milton a gyhoeddwyd gyntaf ym 1806. Cyfieithiad mewn odl a medr o Aeneid gan Fyrsil ym 1817; a Life of Shakespeare, with some remarks upon his dramatic writings a defnyddiwyd gan Samuel Weller Singer fel rhagair i'w argraffiad o gasgliad o waith Shakespeare ym 1826
Teulu
golyguYn 1779 priododd Elizabeth, merch John Folet o Ridgeway, Sir Benfro, a chwaer i Syr Thomas Foley a daeth yn Ôl-lyngesydd yn niweddarach. Bu iddynt dau fab a thair merch. Bu un o'i feibion, John Symmons, (1780-1842) yn llenor ac yn fargyfreithiwr amlwg ar gylchdaith Cymru.[3]
Marwolaeth
golyguBu farw yng Nghaerfaddon wedi gwaeledd hir yn 77 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion yn Abaty'r ddinas.[6][7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "SYMMONS (TEULU), Llanstinan, Sir Benfro | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-09-02.
- ↑ Williams, William Retlaw (1895). "Members for Cardigan". The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895, comprising lists of the representatives, chronologically arranged under counties, with biographical and genealogical notices of the members, together with particulars of the various contested elections, double returns and petitions. Brecknock : Priv. Print. for the author by E. Davis and Bell. t. 40.
- ↑ 3.0 3.1 "Symmons, Charles (1749–1826), poet and biographer | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-26884. Cyrchwyd 2019-09-02.
- ↑ "Charles Symmons". Y Brython 2 (XI): 35. 1 Ionawr 1859. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2686334/2688867/34#?cv=34&m=73&h=&c=0&s=0&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F2686334%2Fmanifest.json&xywh=442%2C1733%2C1980%2C1764.
- ↑ "SYMMONS (or SIMONDS), The Rev. CHARLES". A Cambridge Alumni Database. University of Cambridge. Cyrchwyd 3 Medi 2019.
- ↑ "Charles Symmons". Find a grave. Cyrchwyd 2 Medi 2019.
- ↑ "Charles Symmons". Bath Record Office. Cyrchwyd 2019-09-03.