Aberteifi (etholaeth seneddol)

Roedd Aberteifi yn etholaeth fwrdeistrefol a oedd yn ethol aelod Seneddol i Dy’r Cyffredin yn San Steffan ers ei chreu ym 1542 hyd iddi gael ei diddymu ar gyfer etholiad cyffredinol 1885.

Aberteifi
MathEtholaeth Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1801 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru

Roedd yr etholfraint yn cynnwys rhydd-ddeiliaid bwrdeistrefi Aberteifi, Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan ac Adpar. Diddymwyd yr etholaeth ym 1885 gan uno'r etholaeth ag etholaeth sirol Ceredigion

Aelodau Seneddol golygu

  • 1542 - 1545 anhysbys
  • 1545 - 1547 Jenkin ap Rhys
  • 1547 - 1552 ansicr John Cotton neu Gruffudd Done
  • 1553 Edward ap Hywel
  • 1553 John Gwyn
  • 1554 John Powell
  • 1554 - 1555 ansicr John Powell neu John Gwyn
  • 1555 -1559 Thomas Phaer
  • 1562- 1567 John Gwyn
  • 1571 - 1583 Edward Davies
  • 1584 - 1587 Francis Cheyne
  • 1588 -1593 Alban Stepneth
  • 1593 - 1597 Syr Ferdinando Gorges
  • 1597 - 1601 Thomas Rawlins
  • 1601 William Aubrey
  • 1601 – 1604 ansicr Richard Delabere o bosib
  • 1604 1614 William Bradshaw
  • 1614 - 1620 Robert Wolverstone
  • 1620 – 1624 Walter Overbury
  • 1624 - 1625 Rowland Pugh
  • 1626 - 1628 Walter Overbury
  • 1628 - 1645 John Vaughan
  • 1645 – 1646 Dim cynrychiolaeth
  • 1646 - 1653 Thomas Wogan
  • 1653 – 6859 Dim cynrychiolaeth
  • Ionawr 1659 y Cyrnol Rowland Dawkins
  • Mai 1659 – 1660 Dim cynrychiolaeth
  • 1660 - 1663 James Philipps
  • 1663 - 1679 Syr Charles Cotterell
  • 1679 - 1693 Hector Phillips
  • 1693 - 1698 John Lewis
  • 1698 - 1701 Syr Charles Lloyd
  • 1701 - 1705 Henry Lloyd
  • 1705 – 1710 Lewis Pryse
  • Chwefror – Hydref 1710 Simon Harcourt (Tori)
  • 1710 - 1712 John Meyrick
  • 1712 - 1713 Owen Brigstocke
  • 1713 -1715 Syr George Barlow
  • 1715 – 1725 Stephen Parry
  • 1725 – 1727 Thomas Powell
  • 1727 – 1729 Francis Cornwallis
  • 1729 - 1741 Richard Lloyd
  • 1741 - 1746 Thomas Pryse
  • 1746 - 1761 John Symmons
  • 1761 - 1768 Syr Herbert Lloyd
  • 1768 - 1769 Pryse Campbell
  • 1769 - 1774 Ralph Congreve
  • 1774 - 1775 Syr Robert Smyth
  • 1775 - 1782 Thomas Johnes
  • 1782 - 1796 John Campbell
  • 1796 - 1818 John Vaughan
  • 1818 - 1849 Pryse Pryse (Rhyddfrydwr)
  • 1849 - 1855 Pryse Loveden (Rhyddfrydwr)
  • 1855 - 1857 John Lloyd Davies (Ceidwadwr)
  • 1857 - 1868 Edward Lewis Pryse (Rhyddfrydwr)
  • 1868 - 1874 Syr Thomas Davies Lloyd (Rhyddfrydwr)
  • 1874 - 1885 David Davies (Rhyddfrydwr )

1885 Diddymu'r etholaeth

Etholiadau golygu

Etholiad 1812 golygu

Etholiad cyffredinol 1812: Aberteifi
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
dim Yr Anrhydeddus John Vaughan 588 53.6
dim Yr Uwchgapten Herbert Evans 508 46.4
Mwyafrif 80

Ni fu etholiad cystadleuol arall yn yr etholaeth hyd 1841.

Etholiadau yn y 1840au golygu

Etholiad cyffredinol 1841: Aberteifi

Nifer pleidleiswyr 832

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Pryse Pryse 305 51.7
Ceidwadwyr John Scandrett Harford 285 48.3
Mwyafrif 20
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Yn wreiddiol cyhoeddwyd bod Harford, y Ceidwadwr wedi ennill o 226 i 163 cyn canfod bod llyfrau pôl Aberystwyth wedi eu colli neu (yn ôl rai) wedi cael eu dwyn gan gefnogwyr yr ymgeisydd Ceidwadol. Fel prawf eu bod ill ddau yn derbyn mae amryfusedd oedd yn gyfrifol talodd y ddau ymgeisydd rhyngddynt am bâr o sbectol newydd i faer Aberteifi, i sicrhau ei fod yn gallu gweld lleoliad pob llyfr pôl yn y dyfodol [1]

Ail etholwyd Pryse Pryse yn ddiwrthwynebiad yn etholiad 1847 ond bu farw ym 1849 a chynhaliwyd isetholiad ym 1849 a gystadlwyd gan ei fab Pryse Pryse, a newidiodd ei enw yn fuan wedi'r etholiad i Pryse Loveden. Er mwyn gwahaniaethu defnyddir ei enw newydd yn y blwch etholiadol isod a'r rhestr ASau uchod.

isetholiad Bwrdeistrefi Aberteifi 1849
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Pryse Loveden 299 50.7
Ceidwadwyr John Scandret Harford 291 49.3
Mwyafrif 8
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Etholiadau yn y 1850au golygu

Etholiad cyffredinol 1852: Aberteifi [2]

Nifer pleidleiswyr 849

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Pryse Loveden 299 51.5
Ceidwadwyr John Inglis Jones 282 48.6
Mwyafrif 17
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Bu farw Pryse Loveden ar 1 Chwefror 1855 [3] a chynhaliwyd isetholiad ar 24 Chwefror 1855.

Isetholiad Bwrdeistrefi Aberteifi 1855 [4]

nifer etholwyr = 849

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr John Lloyd Davies 298 51.1
Rhyddfrydol John Evans 286 48.9
Mwyafrif 12
Ceidwadwyr yn disodli Rhyddfrydol Gogwydd
Etholiad cyffredinol 1859: Aberteifi
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Edward Lewis Pryse diwrthwynebiad
Rhyddfrydol yn disodli Ceidwadwyr Gogwydd

0'r 1860au hyd diddymu'r sedd golygu

 
David Davies Llandinam - AS Aberteifi 1874-1885

Isetholiad 1855 oedd yr etholiad cystadleuol olaf i'w cynnal yn yr etholaeth. Cafodd Edward Pryse ei ail ethol yn ddiwrthwynebiad ym 1865; fe'i olynwyd gan Syr Thomas Davies Lloyd ar ran y Rhyddfrydwyr yn etholiad cyffredinol 1868. Cafodd David Davies ei ethol ar ran y Rhyddfrydwyr ym 1874 a 1880, diddymwyd y sedd ar adeg etholiad cyffredinol 1885.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Notitle - The Cambrian". T. Jenkins. 1841-11-06. Cyrchwyd 2019-11-20.
  2. Seren Cymru 22 Gorffennaf 1852 http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3160984/ART40 adalwyd Ion 7 2014
  3. Deaths of Note yn y Monmouthshire Merlin 16 Chwefror 1855 http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3396266/ART14 adalwyd 7 Ion 2014
  4. Cardigan Election yn Pembrokeshire Herald and General Advertiser 2 Mawrth 1855 http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3054378/ART48 adalwyd 7 Ion 2014