Charles Whitley Deans Dundas
Roedd Charles Whitley Deans Dundas (18 Ionawr 1811 – 11 Ebrill 1856) yn filwr ac yn wleidydd Prydeinig.
Charles Whitley Deans Dundas | |
---|---|
Ganwyd | 18 Ionawr 1811 ![]() |
Bu farw | 11 Ebrill 1856 ![]() Caeredin ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Swydd | Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig ![]() |
Cefndir Golygu
Roedd Dundas yn fab i'r Llyngesydd Syr James Whitley Deans Dundas a Janet Dundas etifeddes ystâd Aston Hall, Sir y Fflint.[1]
Gyrfa Milwrol Golygu
Yn 17 mlwydd oed ymunodd â Chatrawd y Black Watch fel ensign (safle sy'n cyfateb i Is-gapten, bellach). Ym 1830 fe symudodd i Warchodlu'r Coldstream lle fu'n gwasanaethu hyd 1837.[2]. Ar ôl ymddeol o'r fyddin llawn amser bu'n gwasanaethu fel Capten ym Militia Sir Gaerhirfryn.
Gyrfa Seneddol Golygu
Ym 1837 cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Bwrdeistrefi Fflint gan wasanaethu hyd 1841.
Personol Golygu
Priododd Janet Lindsey Jardine (ei gyfnither) ym 1837 a bu iddynt un mab Charles Amesbury Whitley Deans Dundas, a daeth yn etifedd Aston Hall ar farwolaeth ei daid ym 1862.
Bu farw Charles Dundas yng Nghaeredin 11 Ebrill 1856.[3]
Cyfeiriadau Golygu
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Syr Stephen Richard Glynne |
Aelod Seneddol dros Bwrdeistrefi Fflint 1837 – 1841 |
Olynydd: Richard Bulkeley Williams-Bulkeley |