Richard Bulkeley Williams-Bulkeley
Roedd Syr Richard Bulkeley Williams-Bulkeley, y 10fed barwnig o Baron Hill ger Biwmares (23 Medi 1801 – 28 Awst 1875) yn dirfeddiannwr ac yn Aelod Seneddol.
Richard Bulkeley Williams-Bulkeley | |
---|---|
Ganwyd | 23 Medi 1801 |
Bu farw | 28 Awst 1875 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 9fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | Robert Williams |
Mam | Anne Lewis |
Priod | Charlotte Mary Hughes, Maria Frances Stanley-Massey-Stanley |
Plant | Richard Williams-Bulkeley, Robert Stanley Williams-Bulkeley, Thomas James Williams-Bulkeley, Charles William Williams-Bulkeley |
Gyrfa
golyguGanwyd Richard Bulkeley Williams, fel ei bedyddiwyd, yn fab ac etifedd i Syr Robert Williams y 9fed barwnig ac Anne Lewis ei wraig. Fe newidiodd ei enw i Williams-Bulkeley trwy drwydded frenhinol ar ôl iddo etifeddu ystadau ei hanner ewyrth Thomas James Bulkeley 7fed is-iarll Bulkeley.[1]
Fe gynrychiolodd Syr Richard nifer o etholaethau Gogledd Cymru yn San Steffan yn gyntaf fel Whig ac yno fel Rhyddfrydwr.
Yn etholiad 1831 etholwyd Williams-Bulkeley yn AS Etholaeth Biwmares; ym 1832 fe'i etholwyd dros etholaeth Sir Fôn. Fe barhaodd yn AS Môn hyd 1837. Ym 1841 fe'i etholwyd dros Bwrdeistrefi’r Fflint lle fu'n AS hyd 1847, pan gafodd ei ethol am yr ail dro dros Sir Fôn, cynrychiolodd Môn hyd ei ymddeoliad o'r Senedd ym 1868 [2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Bywgraffiadur ar-lein BULKELEY (TEULU), sir Fôn http://wbo.llgc.org.uk/cy/c-BULK-ELE-1400.html adalwyd 16 Hyd 2013
- ↑ James Arnold J a Thomas John E. Wales at Westminster, a history of the parliamentry representation of Wales 1800-1979 Gwsag Gomer 1981 ISBN 0 85088 684 8
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Syr Robert Williams |
Aelod Seneddol dros Fiwmares 1831 – 1832 |
Olynydd: Frederick Paget |
Rhagflaenydd: Iarll Uxbridge |
Aelod Seneddol dros Ynys Môn 1832 – 1837 |
Olynydd: William Owen Stanley |
Rhagflaenydd: Charles Whitley Deans Dundas |
Aelod Seneddol dros Bwrdeistrefi’r Fflint 1837 – 1841 |
Olynydd: Syr John Hanmer |
Rhagflaenydd: Syr William Owen Stanley |
Aelod Seneddol dros Ynys Môn 1847 – 1868 |
Olynydd: Richard Davies |