Charlie Jones (pel-droediwr, a anwyd 1899)
Roedd Charles "Charlie" Jones (12 Rhagfyr 1899 - Ebrill 1966) yn bêl-droediwr rhyngwladol o Gymru.
Charlie Jones | |
---|---|
Ganwyd | 12 Rhagfyr 1899 Merthyr Tudful |
Bu farw | 1966 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | pêl-droediwr |
Chwaraeon | |
Tîm/au | C.P.D. Dinas Caerdydd, Stockport County F.C., Nottingham Forest F.C., Arsenal F.C., Oldham Athletic A.F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru |
Safle | hanerwr asgell |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Fe'i anwyd yn Nhroedyrhiw, Merthyr Tydfil, gan gychwyn ar ei yrfa yn Ninas Caerdydd, ond fe'i rhyddhawyd yn Haf 1921 ar ôl dim ond un ymddangosiad, pan eu trechwyd o 1-0 gan Stoke City. Ymunodd â Stockport County, ac yn ei dymor cyntaf yn y clwb (1921-22) enillodd fedal Trydydd Rhanbarth Gogledd ac ennill dyrchafiad i'r Ail Adran. Symudodd ym mis Mawrth 1923 i'r Adran Gyntaf ac ymuno gydag Oldham Athletic, ond cafodd y clwb ei ddisodli i'r Ail Adran yn fuan ar ôl iddo ymuno; Treuliodd Jones ddau dymor arall gyda'r Latics yn yr ail adran, ac yna ymunodd â Nottingham Forest yn yr Ail Adran yn Haf 1925.
Fe wnaeth Jones wneud enw i'w hun fel chwaraewr asgell chwith talentog gyda Forest, gan wneud dros 100 o ymddangosiadau drostynt dros dair blynedd. Tra oedd yno, fe enillodd y cyntaf o'i wyth cap ar gyfer Cymru, yn rhagori mewn buddugoliaeth 3-1 dros Loegr yn Selhurst Park ar 1 Mawrth 1926. Yn ogystal, aeth ymlaen i fod yn gapten ar ei wlad sawl gwaith.
Arwyddwyd gan Herbert Chapman Jones ar gyfer Arsenal ym mis Mai 1928, ac fe chwaraeodd fel un o'r blaenwyr yn aml wrth i Chapman gyflwyno ffurfiau WM. Collodd dim ond tair gêm gynghrair yn 1929-30, er yn anffodus, ni chafodd ei ddewis ar gyfer tim buddugol y Gunners yng Nghwpan FA 1930.
Fodd bynnag, profodd Jones ei hyblygrwydd trwy symud i'r hanner dde, ac ddaeth yn adnabyddus fel y bêl-enillydd gwydn ac ymladdwr ymrwymedig yng nghanol cae i Arsenal. Gydag Arsenal enillodd dair medal Enillwyr yr Adran Gyntaf (yn 1930-31, 1932-33 a 1933-34), a chwaraeodd yn rownd derfynol Cwpan FA 1931-32 (pan gollodd Arsenal yn ddadleuol i Newcastle United). Tua diwedd ei yrfa roedd ei oedran yn dechrau dal i fyny gydag ef, ac roedd cystadleuaeth am leoedd canol cae yn ffyrnig; gyda chwaraewyr fel Bob John a Frank Hill yn sgwad Arsenal, chwaraeodd Jones mewn 16 o gemau yn unig yn 1932-33. Fodd bynnag, roedd rheolwyr Arsenal, Herbert Chapman a Joe Shaw, yn parhau i werthfawrogi ei wybodaeth am y gêm a'i ymdeimlad tactegol; roedd hyn yn golygu ei fod yn bresenoldeb rheolaidd yn y tymor 1933-34, ac ar ddiwedd y cyfnod ymddeolodd o'r gêm, yn 34 oed. Fe chwaraeodd 195 o gemau yn gyfangwbl i Arsenal, gan sgorio 8 gôl.
Roedd Jones yn reolwr Notts County o Fai 1934 i Ragfyr 1935.