Ffredrig I, brenin Prwsia
Uchelwr Prwsiaidd o deulu'r Hohenzollern oedd Ffredrig I (Almaeneg: Friedrich I.; 11 Gorffennaf 1657 – 25 Chwefror 1713) a fu'n Frenin Prwsia o 1701 hyd at ei farwolaeth. Wedi iddo etifeddu teitlau Etholydd Brandenburg a Dug Prwsia oddi ar ei dad, Ffredrig Wiliam, yn 1688, llwyddodd i ehangu ei diriogaethau ac atgyfnerthu ei afael arnynt er mwyn gwrthod penarglwyddiaeth yr Ymerodraeth Lân Rufeinig a choroni ei hunan yn frenin cyntaf Prwsia.
Ffredrig I, brenin Prwsia | |
---|---|
Ganwyd | 11 Gorffennaf 1657 Königsberg |
Bu farw | 25 Chwefror 1713 Berlin |
Dinasyddiaeth | yr Almaen |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Brenin Prwsia, Prince-Elector, Margrave of Brandenburg, Duke of Prussia |
Tad | Frederick William o Brandenburg |
Mam | Countess Louise Henriette of Nassau |
Priod | Elisabeth Henriette of Hesse-Kassel, Sophie Charlotte o Hannover, Sophia Louise of Mecklenburg-Schwerin |
Partner | Catharina Rickert |
Plant | Princess Luise Dorothea of Prussia, Friedrich Wilhelm I o Brwsia, Friedrich August Prinz von Brandenburg, unnamed son von Hohenzollern |
Perthnasau | Sophia o Hannover, Siôr I, brenin Prydain Fawr, Margrave Frederick William of Brandenburg-Schwedt, Frederick Henry o Orange-Nassau, Iarlles Louise Juliana o Nassau, Elizabeth Charlotte of the Palatinate, Frederick V, Elector Palatine, Sophie Charlotte o Hannover, Sophie Dorothea o Hannover, Charlotte Amalie of Hesse-Kassel, Frederick IV of Denmark, Hedwig Sophie of Brandenburg, Elisabeth Henriette of Hesse-Kassel |
Llinach | Tŷ Hohenzollern |
Gwobr/au | Urdd yr Eryr Du, Urdd y Gardas, Marchog Urdd yr Eliffant |
llofnod | |
Ganed yn Königsberg, yn fab i Ffredrig Wiliam, Etholydd Brandenburg a Dug Prwsia, a elwir "yr Etholydd Mawr", a'i wraig Louise Henriette, Iarlles Nassau. Wedi marwolaeth ei dad yn 1688, aeth Ffredrig ati i weithredu'r polisi o ymddyrchafu Dugiaeth Prwsia, a hynny gyda chefnogaeth ei brif weinidog Eberhard von Danckelmann, a fu'n diwtor iddo pan oedd yn fachgen. Tyfodd ei fyddin a chynhaliodd lys brenhinol ysblennydd mewn ymgais i hyrwyddo'i rym. Ymgynghreiriodd ag Archddugiaeth Awstria, Teyrnas Lloegr, a Gweriniaeth yr Iseldiroedd yn erbyn Teyrnas Ffrainc yn niwedd yr 17g. Anfonodd Ffredrig luoedd Prwsiaidd i amddiffyn yr Iseldiroedd yn 1688 pan aeth Wiliam o Oren i dderbyn coron Loegr, a brwydrodd y Prwsiaid yn ffyddlon dros yr Ymerodraeth Lân Rufeinig yn Rhyfel y Gynghrair Fawr (1689–97).[1]
Ar 16 Tachwedd 1700, arwyddwyd Cytundeb y Goron gan Ffredrig a Leopold I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig ac Archddug Awstria, yn rhoddi caniatâd i Ffredrig goroni ei hunan yn Frenin Prwsia, a ddigwyddodd yn Königsberg ar 18 Ionawr 1701. Yn ôl telerau'r cytundeb, danfonodd Ffredrig luoedd ychwanegol i frwydro dros achos y Habsbwrgiaid yn Rhyfel Olyniaeth Sbaen (1701–14). Er i'w deyrnas brofi'n gynghreiriad ffyddlon i Awstria, gwobrwywyd dim ond ychydig o diriogaethau iddi yng Nghytundeb Utrecht (1713). Bu farw Ffredrig ym Merlin yn 55 oed, a chafodd ei olynu yn Frenin Prwsia gan ei fab Ffredrig Wiliam.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Frederick I. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Mawrth 2020.