Chimurenga

Cerddoriaeth protest o Simbabwe

Mae cerddoriaeth Chimurenga yn genre cerddoriaeth boblogaidd o Zimbabwe a fathwyd ac a boblogeiddiwyd gan Thomas Mapfumo. Gair iaith Shona am "ryddhad" neu "ymryddau" yw Chimurenga, a ddaeth i ddefnydd cyffredin yn ystod 'Bush War' Rhodesia - y gwerthryfel gan bobl ddu frodorol y wlad yn erbyn y llywodraeth a sefydliadau gwynion o dras Brydeinig yn yr 1970au.[1]. Rhodesia oedd yr hen enw drefedigaethol ar y wlad a enwyd yn Zimbabwe yn 1980. Gelwir y brwydrau cynharach yn yr 1890au yn erbyn lluoedd Prydain yn 'Chimurenga Gyntaf'.[1] Mae dehongliad modern y gair wedi'i ymestyn i ddisgrifio brwydr dros hawliau dynol, urddas gwleidyddol a chyfiawnder cymdeithasol.

Chimurenga
Enghraifft o'r canlynolgenre gerddorol Edit this on Wikidata
Mathmusic of Zimbabwe Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1970 Edit this on Wikidata
Offeryn cerddorol draddodiadol Shona, mbira dzavadzimu, a ddylanwadodd ar ganu Chimurenga
Un o 'dadau' canu Chimurenga, Thomas Mapfumo (2011)

Datblygodd Mapfumo arddull o gerddoriaeth yn seiliedig ar gerddoriaeth draddodiadol Shona, y mbira, ond yn cael ei chwarae ag offeryniaeth drydan fodern, gyda geiriau wedi'u nodweddu gan sylwebaeth gymdeithasol a gwleidyddol.[2]

Roedd cyfuno'r melodi traddodiadol ag arddul a nodweddion mwy cyfoes fel gitâr drydan i ddynwared sŵn y mbira, yn ffordd o apelio at gynulleidfaoedd yn y cefn gwlad ac yn y dinasoedd a hefyd lledaenu negeseuon gwleidyddol. Wrth gyfuno'r hen a'r newydd llwyddwyd artistiaid fel Thomas Mapfuno a Jonas Sitole hefyd i gynyddu apêl a gwerthiant artistiaid oedd yn canu caneuon Chimurenga.[3]

O'r cyfuno cyfoes yma y daeth genre newydd a elwir Jit. Ymysg bandiau mwyaf adnabyddus yn y math yma o ganu oedd y Four Brothers a'r Bhundu Boys.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Bertho 2017, t. 137.
  2. "What Is Chimurenga?". www.zambuko.com. Cyrchwyd 2016-07-06.
  3. 3.0 3.1 "Chimurenga". Ethnomusicology Explained! ar Youtube. 2016.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Simbabwe. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.