Chita Rivera
Actores, cantores a dawnsiwr o'r Unol Daleithiau oedd Dolores Conchita Figueroa del Rivero Anderson (23 Ionawr 1933 - 30 Ionawr 2024), a elwir yn broffesiynol fel Chita Rivera. Roedd hi'n fwyaf ad adnabyddus am ei rôl fel Anita yn West Side Story ar lwyfan Broadway. Enillodd Rivera sawl gwobrau gan gynnwys dwy Wobr Tony. [1] [2]
Chita Rivera | |
---|---|
Ffugenw | Chita Rivera |
Ganwyd | Dolores Conchita Figueroa del Rivero 23 Ionawr 1933 Washington |
Bu farw | 30 Ionawr 2024 Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | UDA |
Galwedigaeth | dawnsiwr, canwr, actor |
Priod | Tony Mordente |
Plant | Lisa Mordente |
Gwobr/au | Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr Gydol Oes am Gampau John Willis, Gwobr Tony am yr Actores Orau mewn Sioe Gerdd, Gwobr Tony am yr Actores Orau mewn Sioe Gerdd, Anrhydedd y Kennedy Center, Gwobr Drama Desk ar gyfer Actores Eithriadol mewn Sioe Gerdd, Drama League Award |
Gwefan | http://www.chitarivera.com |
Cafodd Dolores Conchita Figueroa del Rivero Anderson ei geni yn Washington, DC, [3] yn ferch i Katherine (Anderson), clerc y llywodraeth, a'i gwr Pedro Julio Figueroa del Rivero, [4] clarinetydd a sacsoffonydd i'r U.D.A. Band Llynges. Puerto Rican oedd ei thad ac roedd ei mam o dras Albanaidd, Gwyddelig ac Affricanaidd-Americanaidd. [5] Roedd Rivera yn un o bump o blant [6]. [7]
Ym 1944, daeth Rivera yn aelod Ysgol Ballet Jones-Haywood [8] Yn ddiweddarach, a hithau’n 15 oed, ymwelodd athrawes o Ysgol Bale Americanaidd George Balanchine â'u stiwdio; roedd Rivera yn un o ddau fyfyriwr a ddewiswyd i gael clyweliad yn Ninas Efrog Newydd. [9]
Ym 1957, priododd â'r actor Tony Mordente. Roedd ganddynt un plentyn, Lisa Mordente, ac yn ddiweddarach ysgaru.[10] Bu farw Chita Rivera yn 91 oed.[11]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "In 35 Years, Kennedy Center has Honored Only One Hispanic American…Chita Rivera". AllGov (yn Saesneg).
- ↑ "President Obama Names Medal of Freedom Recipients", White House Office of the Press Secretary, 30 Gorffennaf 2009
- ↑ Rose, Mike (23 Ionawr 2023). "Today's famous birthdays list for January 23, 2023 includes celebrities Mariska Hargitay, Chita Rivera". Cleveland.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 Ionawr 2023.
- ↑ "Biography" (yn Saesneg). ChitaRivera.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2015.
- ↑ "Chita Rivera: What I Know Now". aarp.org. AARP. March 27, 2023. Cyrchwyd May 17, 2023.
- ↑ "Lighting Up The Stage With Stars Of A Certain Age -- For Chita Rivera And A Host Of Other Veteran Actresses, Age Is No Longer An Issue | The Seattle Times". archive.seattletimes.com. Cyrchwyd October 11, 2020.
- ↑ McFadden, Robert D. (January 30, 2024). "Chita Rivera, Electrifying Star of Broadway and Beyond, Is Dead at 91". The New York Times. Cyrchwyd January 30, 2024.
- ↑ Kaufman, Sarah L (March 15, 2016). "How Chita Rivera keeps dancing at 83, with 16 screws in her leg". Washington Post (yn Saesneg). ISSN 0190-8286. Cyrchwyd 22 Mai 2021.
- ↑ Ratner-Arias, Sigal (4 Medi 2009). "Q&A: Chita Rivera reflects on life in the theater". Taiwan News (yn Saesneg). AP. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mawrth 2016.
- ↑ "Chita Rivera Biography and Career Timeline" (yn en). Great Performances. PBS. http://www.pbs.org/wnet/gperf/chita-rivera-a-lot-of-livin-to-do-chita-rivera-biography-and-career-timeline/4202/.
- ↑ "Broadway Icon Chita Rivera Dies at 91 - TheaterMania.com" (yn Saesneg). 30 Ionawr 2024. Cyrchwyd January 30, 2024.