Chofefei Tzion

mudiad Seionistaidd Iddewig
(Ailgyfeiriad o Chofefei Tsion)

Roedd Chofefei Tzion (Hebraeg: חובבי ציון, Cymraeg: "Carwyr Seion") yn fudiad boblogaidd cymdeithasol a chenedlaetholgar Iddewig a oedd yn weithgar yn ail hanner 19g a dechrau'r 20g. Nod y mudiad oedd i'r Iddewon "ddychwelyd" dychwelyd i Seion (Israel) ac adeiladu mamwlad Iddewig ym Mhalesteina. Ynganner yr enw fel Chofefei Tzion gydag 'ch' Gymraeg. Ceir gwahanol siallafiadau gan gynnwys Chovevei Zion ac yn fwy cyffredin yn Saesneg a trawslythreniad Hebraeg, Hovevei Zion.

Cyfrfod 1af Pwyllgor Odessa' Hovevei Tzion ym mis Mai 1890

Hanes golygu

 
Blaendalen "Auto-Emancipation" gan Pinsker, 1882

Sefydlwyd y mudiad yn ninas Odessa, ar y pryd yn rhan o Ymerodraeth Rwsia yn 1881 gan Leon Pinsker, meddyg, ar ôl terfysgoedd a pogroms gwrth-Iddewig yn 1881. Enw gwreiddiol y mudiad oedd "Cariad at Seion", roedd yn enghraifft o Seioniaeth gynnar. Ei bwriad oedd deffro ysbryd a hyder yr Iddewon ynddynt eu hunain fel cenedl ac iddynt ymfudo i Balesteina i greu cenedl fydd ag iddi diriogaeth ac iaith (fel norm mudiadau cenedlaetholaidd eraill Ewrop).

Er bod nifer o brosiectau a syniadau tebyg wedi cael ei cynnig gan unigol fel Rabbi Zvi Hirsch Kalischer a Yehuda Hay Alkalai, yr athronydd Moses Hess, yr awduron David Gordon, Peretz Smolensk a'r ieithydd ac adferwr yr iaith Hebraeg, Eliezer Ben-Yehuda, Chofefei Tsion oedd y mudiad llawr gwlad boblogaidd gyntaf i ddatblygu a gweithredu delfrydau Seioniaeth a hynny cyn Cyngres enwog Seionistwyr y byd yn Basle, Y Swistir yn 1897.

Roedd sawl cymdeithas Iddewig hefyd am hyrwyddo sefydlu gwladfa Iddewig ar dir Israel. Sefydlwyd grŵp Seionyddol yn Warsaw gan Ludwik Lejzer Zamenhof. Yr amcan cyffredin oedd y syniad nad oedd iachawdwriaeth posibl ar gyfer yr Iddewon ond yn eu gwledydd eu tarddiad, a thrwyd "dychwelyd i Seion".

Cyd-destun - Erlid golygu

Yn y 1880au, roedd tonnau o pogromau gwrth-Iddewig yn Rwsia (1881-1884). Ac roedd cyflwynwyd Deddfau Mai gan y Tsar Alecsander III o Rwsia oedd yn cyfyngu ar hawliau'r Iddewon ynghyd â gwrthdystiadau gwrth-semitig Lundain yn plannu hadau fod angen gweithredu, ym meddwl Dr Pinsker. Yn 1882 cyhoeddodd ei lyfr dylanwadol, Auto-Emancipation (Selbstemanzipation) yn Almaeneg.

Cynhadledd yn Katowice, Gwlad Pwyl, oedd y cyfarfod swyddogol cyntaf y mudiad. Daeth 35 o gynrychiolwyr o wahanol wledydd ynghyd o dan gadeiryddiaeth Pinkser gan gefnogi maniffesto i'r mudiad. Galwir y gynghrair yn wreiddiol yn "Cofnod Moses," er anrhydedd i Moses Montefiore, am ei weithredoedd o blaid yr Iddewon y Eretz (tir) Israel.

Lled y mudiad Carwyr Seion ar draws y byd Iddewig. Yng nghanol a dwyrain Ewrop mabwysiadwyd ganddo ffurf mudiad mwy diwylliannol.

roedd sefydlu'r mudiad yn adlewyrchiad o ffordd yng nghroesffordd Iddewon Ewrop gyda rhai yn dadlau dros gymathu llwyr i'r byd mwyafrifol Cristnogol, seciwlar, ac eraill am wrthwynebu cymhathu llwyd. Yr ail grŵp yma, y rhai nad oedd am gymhathu'n llwyr, ddaeth yn sylfeini ac arweinwyr Hovevei Tzion, a'r mudiad Seionaidd yn ei chyfanrwydd.

Cyngres Kattowitz, 1884 golygu

Yn y Gyngres yn 1884 yn Kattowitz (oedd, ar y pryd yn rhan o'r Ymerodraeth Almaenig, bellach, Katowice yng Ngwlad Pŵyl), cynnigiodd Herman Tzvi Shapira, sefydlu cronfa i brynu tir ym Mhalesteina. Dyma'r gronfa a ddaeth maes o law yn Gronfa Genedlaethol Iddewig (Saesneg: Jewish National Fund). Yn ail gynhadledd Cariadon Seion a gynhaliwyd yn Drusknik yn 1887, ymddangosodd ganghytuno rhwng arweinwyr ifanc lleyg (Menachem Meir Dizengoff a Usishkin) a thueddiadau crefyddol uniongred, o dan arweiniad Rabbi Samuel Mohaliver.

Yn ystod y drydedd gynhadledd, cytunwyd ar i Hovevei Tsion, fod yn gymdeithas oedd yn hyrwyddo lledaeniad Hebraeg modern, ac yn cyhoeddi nifer o weithiau llenyddol yn yr iaith hon.

Ym 1890, gyda chymeradwyaeth y llywodraeth Rwsia, crewyd 'Cymdeithas er Cefnogi ffermwyr a chrefftwyr Iddewig yn Syria a Phalesteina', a drefnodd gweithgareddau'r mudiad Seionaidd yn yr Ymerodraeth Rwsia. Gelwir pwyllgor canolog y sefydliad yn Pwyllgor Odessa. Yn 1892 roedd gan y mudiad oddeutu 14,000 cefnogwyr yn Russia.[1]

Ym 1897, cyn dathlu'r Gyngres Seionistaidd gyntaf, enwog yn Basle, roedd gan Bwyllgor Odessa fwy na 4,000 o aelodau. Yn dilyn cyhoeddu Der Judenstaat (llyfr iwtopaidd, ac ysbrydoliaeth i Wythnos yng Nghymru Fydd, Islwyn Ffowc Elis) gan Herzl yn 1896 a sefydlu Sefydliad Seionistaidd y Byd (World Zionist Organisation') yn 1897, ymunodd Hovevei Tsion â hi (er fod Herzl yn erbyn prynu tir ym Mhalesteina heb yn gyntaf gael caniatâd yr awdurdodau Otomanaidd). Gyda creu'r WZO, o dan arweiniad y newyddiadurwr Theodor Herzl, penderfynnodd aelodau'r Hovevei yn ymuno â'r mudiad Seionaidd, a gweithredu o fewn y mudiad hwn.

Derbyniodd y mudiad gefnogaeth ariannol gan sawl person gan gynnwys Barwn Edmond James de Rothschild a y sefydlydd y cwmni tê fwyaf yn Rwsia, Kalonimus Wolf Wissotzky. Rhoddodd Wissotzky arian tuag at gwladfeydd amaethyddol ym Mhalesteina ac ymwelodd â'r wlad yn 1884-1885 gan gyhoeddi llyfr ar ei ymweliad.[2]

Gwaith yn Eretz Israel golygu

 
Prosesiwn lawr Stryd Chofefei Tsion yn Petach Ticfa rhywbryd rhwng 1930-50au

Yn 1882, aeth grŵp o ffyddloniaid Chofefei Zion oedd yn cynnwys y dyngarwr Isaac Leib Goldberg at i sefydlu tref Rishon LeZion, yr aneddiad Seionistaidd gyntaf yn Erezt Israel,[3] er gwaethaf y rhwystrau a roddwyd ar yr Iddewon i brynu tir gan y Llywoadraeth Twrcaidd.[4] Gwelir hyn fel yr 'Aliyah Gyntaf', y cyntaf o bump Aliyah cyn sefydlu Gwladwriaeth Annibynnol Israel yn 1948.

Ym Mhalesteina, neu Ertz Israel (gwlad Israel) fel gwelid hi gan Seionistaid, aeth aelodau'r Hovevei Tzion at i roi eu breuddwyd ar waith. Roedd Palesteina ar y pryd yn rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid cyn 1917. Aeth y mudiad ati i adeiladu cymunedau nac ysgolion newydd. Mae llawer o'r Iddewon a oedd yn aelodau ac yn weithgar gyda'r Hovevei ymlaen i ymfudodd i Balestina a dod yn sylfaenwyr dinasoedd megis Rishon Lezion, Rosh Pina, Zichron Yaakov, a lleoliadau eraill. Roeddent ymhlith yr arloeswyr a sefydlodd ddinas Petach Ticfa. Diddymwyd Pwyllgor Odessa yn 1919 gan y Bolsieficiaid.

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. https://www.jewishvirtuallibrary.org/hovevei-zion
  2. https://www.haaretz.com/jewish/.premium-1824-a-man-who-makes-israelis-think-of-tea-is-born-1.5407039
  3. Yehuda, Slutsky (2007). "Goldberg, Isaac Leib". Encyclopaedia Judaica. Encyclopedia.com. Cyrchwyd 2015-01-10.
  4. History of the Jews in Russia and Poland