Chris Roberts
Cogydd o Gymro yw Chris Roberts (ganwyd 26 Mawrth 1985). Mae'n enwog am ei rhaglen teledu coginio Bwyd Epic Chris ar S4C. Mae ganddo hefyd dudalen coginio ar-lein sydd efo miloedd o ddilynwyr.
Chris Roberts |
---|
Ganwyd Chris ym Mangor, Gwynedd i Colin a Lynda Roberts. Symudodd o Landwrog i Gaernarfon yn 14 mlwydd oed.
Roedd gan Chris ddiddordeb mewn coginio erioed ond cymerodd ef o ddifri ar ôl gwylio dogfen coginio yn 2017 am Francis Mallman (cogydd enwog sydd yn coginio drwy ddefnyddio tân o Batagonia). Fe'i hatgoffwyd gan y ddogfen am straeon ei dad, Colin Roberts, pan oedd yn mynd i'r Ariannin i bysgota, byw a choginio asado (ffordd mae’r Gauchos yn yr Ariannin yn coginio dros dân). Ar ôl hyn penderfynodd Chris adeiladu ‘Asado pit’ a choginio oen Cymreig ar yr haearn croesi dros dân.
Dechreuodd roi lluniau o’r bwyd ar wefannau cymdeithasol fel Facebook ac wedyn aeth ymlaen i roi fideos ohono a’i gi, Roxy, yn coginio efo cynhwysion lleol o gwmpas Gogledd Cymru gyda thân a mwg. Mae un fideo o Chris yn coginio byrger yn defnyddio rysáit ei hun wedi cael ei wylio dros 320,000 o weithiau!
Ar ôl mis neu ddau, cysylltodd Hybu Cig Cymru a Chris a gofynasant nhw iddo fod yn ‘wyneb cyfarwydd’ i alluogi’r cwmni i hyrwyddo cig Cymreig o gwmpas y Deyrnas Unedig mewn sioeau mawr. Mae Chris wedi cael llawer o gyfleoedd arbennig ers cychwyn coginio yn cynnwys ei raglen deledu, ei ŵyl bwyd ’Chrisfest’ a llawer mwy.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Brenin y barbeciw , BBC Cymru Fyw, 8 Mehefin 2017. Cyrchwyd ar 12 Chwefror 2019.