Agor y brif ddewislen

Aelod Seneddol Dyffryn Clwyd ydy Christopher Shaun Ruane (ganed 18 Gorffennaf 1958). Mae o'n aelod o'r Blaid Lafur. Bu'n Ysgrifennydd Seneddol Preifat (PPS) i Peter Hain o 2003 hyd at 2007, pan ymddiswyddodd mewn protest yn erbyn penderfyniad y llywodraeth i adnewyddu Trident. Ers Chwefror 2008, mae o'n YPS i Caroline Flint.

Chris Ruane
AS
Official portrait of Chris Ruane crop 2.jpg
Llun seneddol swyddogol, Mehefin 2017
Aelod Seneddol
dros Ddyffryn Clwyd
Yn ei swydd
Dechrau
8 Mehefin 2017
Rhagflaenydd James Davies
Mwyafrif 2,379 (6.1%)
Yn ei swydd
1 Mai 1997 – 30 Mawrth 2015
Rhagflaenydd Sefydlwyd yr etholaeth
Ar ei ôl James Davies
Manylion personol
Ganwyd (1958-07-18) 18 Gorffennaf 1958 (61 oed)
Rhyl, Sir Ddinbych
Cenedligrwydd Prydeinig
Plaid wleidyddol Llafur
Gŵr neu wraig Gill Roberts[1]

Bywyd CynnarGolygu

Mynychodd Ruane Ysgol Gynradd Eglwys Gatholig Mair yn Rhyl. Fe aeth wedyn i Ysgol Uwchradd Edward Jones (dair mlynedd uwchlaw Carol Vorderman) ar Ffordd Cefndy yn Rhys ac wedyn Fflint. Aeth i Brifysgol Cymru Aberystwyth, lle llwyddodd i gael Bsc mewn Economed yn 1979. O hynny aeth i Brifysgol Lerpwl lle cafodd gymhwyster athro yn 1980. Roedd yn gynhorydd tref o 1988 ac yn Gadeirydd NUT ar gyfer Gorllewin Clwyd.

Roedd yn athro ysgol gynradd o 1982-97 ac yn ddirprwy bennaeth o 1991 i 1997.

Gyrfa etholiadolGolygu

Fe wnaeth ymgeisio sedd Gogledd Orllewin Clwyd yn 1992.

Daeth yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Peter Hain o 2003 hyd at ei ymddiswyddiad ym Mawrth 2007 pan y protestiodd ynglyn a phenderfyniad ail wneud Trident.

Yn 2003, pleidleisiodd Ruane o blaid Rhyfel Irac.

Collodd ei sedd i James Davies yn yr Etholiad Cyffredinol 2015. Er hyn, fe safodd i gael ei ail-ethol ar gfyer etholaeth Gorllewin Clwyd yn etholiad 2017 ac ail-ennill y sedd.

Roedd Ruane yn wrthwynebus i Brexit cyn y bleidlais.

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros Ddyffryn Clwyd
19972015
Olynydd:
James Davies
Rhagflaenydd:
James Davies
Aelod Seneddol dros Ddyffryn Clwyd
2015-2017
Olynydd:
Deilydd presennol y swydd

CyfeiriadauGolygu

  1. Commons, House of. "House of Commons - The Register of Members' Financial Interests - Part 2: Part 2".