Cynhaliwyd Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1997 ar 1 Mai 1997. Canlyniad yr etholiad oedd newid llywodraeth am y tro cyntaf ers deunaw mlynedd, gyda'r Blaid Lafur dan arweiniad Tony Blair yn ennill mwyafrif mawr dros y Blaid Geidwadol dan arweiniad John Major. Enillodd Llafur 66% o'r seddau yn Nhy'r Cyffredin, gyda mwyafrif o 179, eu mwyafrif mwyaf erioed. Collodd y Ceidwadwyr bob sedd oedd ganddynt tu allan i Loegr, ac roedd eu cyfanswm o seddau yr isaf ers dyddiau Dug Wellington. Collodd nifer o wleidyddion amlwg y blaid eu seddau, yn cynnwys Michael Portillo, Malcolm Rifkind, Michael Forsyth, William Waldegrave, Edwina Currie, Norman Lamont a David Mellor. Enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol y nifer uchaf o seddau iddynt hwy neu'r Rhyddfrydwr eu hennill ers dyddiau David Lloyd George.
Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1997
|
|
| Pob un o'r 659 sedd yn y Tŷ Cyffredin.
|
---|
Nifer a bleidleisiodd
|
71.3%
|
---|
|
Plaid 1af
|
Ail blaid
|
3ydd plaid
|
---|
|
|
|
| Arweinydd
|
Tony Blair |
John Major |
Paddy Ashdown
|
---|
Plaid
|
Llafur
|
Ceidwadwyr
|
Democratiaid Rhyddfrydol
|
---|
Arweinydd ers
|
21 Gorffennaf 1994 |
28 Tachwedd 1990 |
16 Gorffennaf 1988
|
---|
Sedd yr Arweinydd
|
Sedgefield |
Huntingdon |
Yeovil
|
---|
Seddi tro yma
|
271 sedd, 34.4% |
336 sedd, 41.9% |
20 sedd, 17.8%
|
---|
Seddi cynt
|
271 |
343 |
18
|
---|
Seddi a gipiwyd
|
418 |
165 |
46
|
---|
Newid yn y seddi
|
145* |
178*
|
---|
Cyfans. pleidl.
|
13,518,167 |
9,600,943 |
5,242,947
|
---|
Canran
|
43.2% |
30.7% |
16.8%
|
---|
Tuedd
|
8.8 |
11.2 |
1.0
|
---|
|
|
Mae'r lliwiau'n dynodi'r pleidiau llwyddiannus. Ni chynhwyswyd Gogledd Iwerddon
* Newidiwyd y ffiniau
^ Nid yw'r rhifau yma'n cynnwys Y Llefarydd
|
|
Yng Nghymru cadwodd Plaid Cymru eu gafael ar eu pedair sedd, tra gadawyd y Ceidwadwyr heb unrhyw sedd yng Nghymru. Yn yr Alban enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban dair sedd i ddyblu eu nifer o seddau i 6. Pleidleisiodd 31,286,284 (71.2%).
Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1997
|
---|
Plaid
|
Seddi
|
Etholiadau
|
%
|
---|
Plaid Lafur
|
418
|
13,518,167
|
43.2
|
Plaid Geidwadol
|
165
|
9,600,943
|
30.7
|
Democratiaid Rhyddfrydol
|
46
|
5,242,947
|
16.8
|
Plaid Unoliaethol Ulster
|
10
|
258,349
|
0.8
|
Plaid Genedlaethol yr Alban
|
6
|
621,550
|
2.0
|
Plaid Cymru
|
4
|
161,030
|
0.5
|
SDLP
|
3
|
190,814
|
0.6
|
Sinn Fein
|
2
|
126,921
|
0.4
|
Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd
|
2
|
107,348
|
0.3
|
Unoliaethwyr y DU
|
1
|
12,817
|
0.1
|
Llefarydd
|
1
|
23,969
|
0.1
|
Annibynnol
|
1
|
64,482
|
0.1
|