Carol Vorderman

actores

Cyflwynydd ar radio a theledu, awdur a cholofnydd yw Carol Jean Vorderman MBE (ganwyd 24 Rhagfyr 1960).

Carol Vorderman
Ganwyd24 Rhagfyr 1960 Edit this on Wikidata
Bedford Edit this on Wikidata
Man preswylPrestatyn, Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyflwynydd teledu, newyddiadurwr, peiriannydd, darlledwr, llenor Edit this on Wikidata
PlantKatie King Edit this on Wikidata
PerthnasauAdolphe Vorderman Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Fe'i ganwyd yn Bedford, Lloegr, yn ferch i Anton 'Tony' Vorderman (1920–2007) a'i wraig, Edwina Jean (née Davies, 1928–2017), Cymraes o Sir y Fflint. Cafodd ei thad garwriaeth gyda menyw arall pan oedd ei mam yn feichiog a gwahanodd ei rhieni pan oedd yn ddwy wythnos oed. Symudodd ei mam nôl i Brestatyn lle roedd hi a'i tri phlentyn yn byw mewn fflat fechan gyda un stafell wely.[1] Yn ddiweddarach, symudodd y teulu i Ddinbych pan briododd ei mam mewnfudwr o'r Eidal, Armido Rizzi.

Aeth i'r ysgol gyfun Babyddol yn y Rhyl, Ysgol Uwchradd Bendigaid Edward Jones.[2] Roedd ei mam wedi dysgu Cymraeg fel plentyn ond wedi ei anghofio ers hynny a nid oedd yn gefnogol iawn o'r iaith. Ar ochr ei mam roedd thaid a'i wncl yn siarad Cymraeg ond ni siaradodd yr iaith gyda hi. Cafodd radd A yn ei Lefel O Cymraeg yn 1976, ond roedd y gwersi yn ffurfiol iawn, dim sgwrsio.

Aeth i astudio Peirianneg yng Ngholeg Sidney Sussex, Caergrawnt. Graddiodd yn 1981 ac erbyn hynny roedd ei mam wedi gadael ei llysdad yn Dinbych felly collodd ei chysylltiad â Chymru.

Bywyd personol

golygu

Mae ganddi dŷ yn Sir Benfro ac mae'n gobeithio symud o'i chartref ym Mryste i Gaerdydd. Ers dechrau cyflwyno ar BBC Radio Wales yn 2019, roedd eisiau ail-ddysgu Cymraeg. Dechreuodd ddysgu unwaith eto. Ymddangosodd ar raglen Iaith ar Daith ar S4C yn Ebrill 2020 lle aeth yn ôl i Brestatyn i roi gwers fathemateg i griw o blant saith mlwydd oed yn Ysgol y Llys, yr ysgol Gymraeg newydd yno.[2]

Teledu

golygu
  • Countdown (1982–2005)
  • Take Nobody's Word For It (1987–1989)
  • Tomorrow's World
  • Stars and their Lives
  • What Will They Think of Next
  • Tested to Destruction
  • Better Homes

Cyfeiriadau

golygu
  1. Carol Vorderman grew up in poverty in Wales after dad had affair when mum was pregnant , WalesOnline, 4 Tachwedd 2019. Cyrchwyd ar 6 Mehefin 2019.
  2. 2.0 2.1  Carol Vorderman yn mwynhau 'Iaith ar Daith'. Llywodraeth Cymru (14 Ebrill 2020). Adalwyd ar 6 Mehefin 2020.