Gemau Cymru
Gŵyl aml-chwaraeon i bobl ifanc Cymru yw Gemau Cymru.[1] Fe'i threfnir gan Urdd Gobaith Cymru mewn cydweithrediad â mudiadau a sefydliadau chwaraeon eraill yng Nghymru. Cynhelir y digwyddiad yn flynyddol ac mae'n cynnwys cystadlaethau gymnasteg, athletau, nofio a champau tîm eraill.
Trefniant
golyguCynehelir y Gemau yng Gwersyll yr Urdd Glan-llyn ac yng Nghaerdydd yn ystod misoedd Mehefin a Gorffennaf. Daw'r gemau o dan adran Chwaraeon yr Urdd,[2] a'r Cyfarwyddwr, Gary Lewis.
Y prif bartneriaid yn 2019 oedd Chwaraeon Cymru, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Caerdydd a Sport Cardiff. Ceir cydweithio agos hefyd gyda Gymnasteg Cymru.
Mae'r cystadleuwyr yn aros mewn "Pentref Athletwyr" gan fagu profiad tebyg i'r hyn â geir mewn campau mawr byd-eang "fel Gemau'r Gymanwlad".[3]
Mae'r Gemau hefyd yn llwyddo i ddenu cystadleuwyr nad sy'n aelodau o'r Urdd neu, efallai, yn draddodiadol yn dod o ardaloedd lle nad yw'r Urdd a'r Gymraeg yn gryf. Gwelir cystadleuwyr, er enghraifft, o glybiau nofio o ddinasoedd fel Casnewydd.[4] Gan hynny, mae'r Gemau yn ymestyn parth y Gymraeg fel iaith fyw a hefyd profiadau cystadlu pobl ifanc.
Bwydo i Gemau'r Gymanwlad ac Olympaidd
golyguCaiff y digwyddiad a chystadlu ynddi ei gweld fel cam at ddatblygu talentau i gynrychioli timau Cymru yn y Gemau'r Gymanwlad a hefyd o bosib tîm Prydain yn y Gemau Olympaidd.[5]
Gwelir y Gemau fel rhan o ysgol i ddatblygu talent a magu diddordeb mewn chwaraeon gan gynnwys at Gemau'r Olympaidd fel gwelwyd cyn cynnal Gemau Olympaidd yr Haf 2012 yn Llundain. Disgwylid oddeutu 1,200 o bobl ifanc i gystadlu yn Gemau Cymru y flwyddyn honno.[6]
Campau
golyguCynhelir cystadlaethau mewn amrywiaeth o gampau gan gynnwys:
- Athletau
- Canŵio
- Codi Pwysau
- Gymnasteg
- Hoci
- Jiwdo
- Nofio
- Nofio Dŵr Agored - er enghraifft, mewn llyn
- Pêl-rwyd
- Tenis Bwrdd
- Triathlon - mae Gemau Cymru yn chwarae rhan o gyfres Triathlon Cenedlaethol 'Tair Seren' (Tri Star) Cymru [7]
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ http://gemaucymru.urdd.cymru/cy/
- ↑ https://www.urdd.cymru/cy/chwaraeon/
- ↑ https://www.youtube.com/watch?time_continue=293&v=Gb3oTV1S4V4
- ↑ http://www.newportswimmingclub.co.uk/meet-packs-1/2019/7/21/swim-wales-national-development-competition-part-of-gemau-cymru-2019
- ↑ http://sport.wales/newyddion-a-digwyddiadau/newyddion-a-digwyddiadau/ein-newyddion/newyddion-diweddaraf/llwybr-awen-at-anrhydedd-drwy-gemau-cymru.aspx?lang=cy&[dolen farw]
- ↑ https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/18779847
- ↑ https://www.britishtriathlon.org/events/gemau-cymru_4272[dolen farw]