Laura McAllister
Academydd, gwleidydd a chyn chwaraewr pêl-droed yw'r Athro Laura Jean McAllister CBE (ganed 1964) sydd yn gadeirydd Chwaraeon Cymru. Fel chwaraewr pêl-droed yn nhîm cenedlaethol merched Cymru, enillodd McAllister 24 o gapiau, a bu'n gapten y tîm. Safodd fel ymgeisydd etholiadol dros Blaid Cymru yn 1987 a 1992. Ar hyn o bryd mae'n Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethu Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.
![]() | |||
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Enw llawn | Laura Jean McAllister[1] | ||
Dyddiad geni | 1964 (60–61 oed) | ||
Man geni | Pen-y-bont ar Ogwr | ||
Safle | Amddiffynnwr | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
Millwall Lionesses | |||
Merched Dinas Caerdydd | |||
Tîm Cenedlaethol‡ | |||
1994–1998 | Cymru | 24 | (0) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 21:13, 15 Tachwedd 2014 (UTC). † Ymddangosiadau (Goliau). |
Fe'i penodwyd yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) yn Anrhydeddau Pen-blwydd 2016 am ei gwasanaeth i chwaraeon yng Nghymru.[2]
Gyrfa Academaidd
golyguDerbyniodd McAllister ei addysg Uwchradd yn Ysgol Bryntirion Pen-y-bont ar Ogwr. Graddiodd o Ysgol Economeg Llundain, lle y cwblhaodd BSc (Econ.) mewn llywodraethu, ac o Brifysgol Caerdydd, lle cwblhaodd PhD mewn Gwleidyddiaeth. Bu'n Athro Llywodraethu ym Mhrifysgol Ysgol Rheolaeth Lerpwl rhwng 1998 a Hydref 2016. Mae hi'n aelod o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
Mae ganddi raddau anrhydeddus o Brifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, a Phrifysgol Abertawe[3].
Gyrfa wleidyddol
golyguSafodd fel ymgeisydd Plaid Cymru yn Etholiad cyffredinol 1987 yn etholaeth Penybont ar Ogwr, ac yn etholaeth Ogwr yn Etholiad cyffredinol 1992.
Roedd yn aelod o Fwrdd Cydnabyddiaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru o 2014 i 2015, yn gynghorydd i'r Panel Annibynnol ar Dâl a Chefnogaeth Aelodau'r Cynulliad o 2008 i 2009, ac yn aelod o Gomisiwn Richard rhwng 2002 a 2004.
Bu'n aelod o fwrdd Stonewall o 2012 i 2015, ac ar hyn o bryd mae'n aelod o fwrdd Y Sefydliad Materion Cymreig.
Gyrfa Pêl-droed
golyguGyrfa clwb
golyguNi chwaraeodd McAllister bêl-droed dan drefn ffurfiol nes iddi ymuno â'r Millwall Lionesses wrth astudio yn Ysgol Economeg Llundain. Ar ôl iddi ddychwelyd i Gymru treuliodd 12 mlynedd gyda Dinas Caerdydd.[4] Casglodd McAllister ddwy fedal enillwyr Cwpan Merched Cymru a enillodd ddyrchafiad i Uwch Gynghrair Merched Cymru gyda Chaerdydd.[5]
Gyrfa ryngwladol
golyguYn 1992 roedd McAllister yn un o dri bêl-droediwr benywaidd a bwysodd ar ysgrifennydd Cymdeithas Bêl-Droed Cymru (FAW), Alun Evans i roi cydnabyddiaeth i bêl-droed merched yng Nghymru.[6] Rhoddwyd tîm swyddogol at ei gilydd a chystadlodd yn nhwrnamaint cymhwyster i Bencampwriaeth Merched UEFA 1995. Gwnaeth McAllister ei ymddangosiad cyntaf i Gymru yn yr ail gêm, ac fe drechwyd Cymru 12-0 gan yr enillwyr yn y pen draw, yr Almaen yn Bielefeld.
Llyfryddiaeth
golyguMae'r Athro McAllister wedi cyhoeddi nifer o lyfrau gan gynnwys;
- Plaid Cymru: The Emergence of a Political Party; Seren 2001 ASIN B019TLTNMG
- Women, Politics and Constitional Change: The First Years of the National Assembly for Wales (Politics & Society in Wales); gyda Paul Chaney a Fiona Mackay; Prifysgol Cymru 2007 ASIN B01K0TPJ9M
- Dafydd Ellis Thomas: A Biography; Prifysgol Cymru 2008 ISBN 978-0708318300
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Wales 0 - 3 Republic of Ireland". Football Association of Ireland. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2014.
- ↑ London Gazette: (Supplement) no. 61608. p. B9. 11 June 2016.
- ↑ "Swansea University honours academic, politician and footballer, Professor Laura". Prifysgol Abertawe. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-05-14. Cyrchwyd 2018/04/07. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ Shipton, Martin (12 Chwefror 2012). "There's really nothing more heart-warming than seeing the smile on a child's face when they've caught a ball; New head of Sport Wales reveals her goals". Western Mail (Wales). Cyrchwyd 15 Tachwedd 2014.
- ↑ McAllister, Laura. "Interview with the footballer Laura McAllister". People's Collection Wales. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2014.
- ↑ Jones, Karen (21 Tachwedd 2011). "Karen Jones/ Secretary/ Cardiff City LFC". She Kicks. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2014. More than one of
|archiveurl=
a|archive-url=
specified (help); More than one of|archivedate=
a|archive-date=
specified (help)