Chwarel Cwmorthin
Chwarel lechi yn ardal Blaenau Ffestiniog, Gwynedd oedd Chwarel Cwmorthin, hefyd Chwarel Cwm Orthin. Saif yng Nghwmorthin i'r gogledd o bentref Tanygrisiau a ger glan ddeheuol Llyn Cwmorthin (cyf. OS SH681459). Rhyw gilometr i'r gorllewin o ben gogleddol y llyn saif Chwarel y Rhosydd a'i hen adfeilion.
Math | mwynglawdd, chwarel |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Parc Cenedlaethol Eryri |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.998861°N 3.965464°W |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CN425 |
Dechreuwyd y chwarel yn 1810. Yn y 1860au, cafwyd cysylltiad tramffordd â Rheilffordd Ffestiniog, ac ehangwyd y chwarel. Ymgorfforwyd y chwarel yn Chwarel yr Oakeley yn 1900, a rhoddwyd y gorau i weithio ar yr wyneb ar y safle. Bu rhywfaint o weithio yn ysbeidiol hyd y 1980au.
Hanes
golyguAgorwyd chwarel bach gan deulu Casson ym 1810; roedd ganddynt chwarel arall, Chwarel Diphwys Casson. Roedd 2 haen o llechi yno, yn gogwydd ar ongl rhwng 20 a 45 gradd, a daeth y chwarel yn bwll, yn dilyn yr haenau. Gorffennwyd gwaith tua 1830, ond ail-ddechreuodd, o dan berchnogaeth John Edwards ac wedyn W B Chorley o Lundain, hyd at 1859.[1] Ffurfiwyd Cwmni Llechi Cwmorthin ym mis Ionawr 1861. Prynodd y cwmni stad Cwmorthin Isaf a rhan o’r pentref Tan-y-grisiau ar 25 Gorffennaf 1861. Dechreuodd gwaith cloddio danddaearol.[2] Adeiladwyd melin driniaeth, sef Melin y Llyn, lle holltwyd llechi, ar lan ddwyreiniol Llyn Cwmorthin. Adeiladwyd Melin y Groes, yn is yn y cwm, a defnyddiwyd olwyn dŵr i roi pŵer i Felin y Groes.
Gadawodd 350 tunnell o lechi’r chwarel ym 1862, ac erbyn 1876, 12,500 tunnell.[3] Crewyd terasau o gerrig i ddwyrain y chwarel. Cafodd y chwarel enw gwael am ei amodau gwaith; adnabuwyd y chwarel fel ‘The Slaughterhouse’ yn lleol.[4] Bu farw 21 o chwarelwyr rhwng 1875 a 1893. Yn dilyn y Deddf Metalliferous Mines, 1872, roedd rhaid i bob pwll cadw cofnodion o’u gwaith, adrodd am farwolaethau, cadw manylion o’r dynion a bechgyn ar waith yno, ac allbwn y pwll. Dadlodd Cwmorthin, fel rhai eraill, fod chwareli oeddynt yn hytrach na chwareli, felly doedd y Deddf ddim yn berthnasol iddynt. Roedd achos llys yn erbyn Cwmorthin ym 1875, a phenderfynwyd bod pwll oedd o.[5]
Y Cwmni newydd Cwmorthin
golyguFfurfiwyd cwmni newydd ym 1876. Diflanodd ffermdy Cwmorthin Isaf o dan wastraff. Adeiladwyd tai gan rhai gweithwyr y cwmni yn Nolrhedyn, uwchben Tan-y-Grisiau.[6] Roedd cwmnïau eraill yn gweithio o dan ddaear o ochr arall y bryn, ac roedd dadlau yn eu erbyn. Roedd cytundeb ym 1876. Ffurfiwyd Cwmni Chwareli Llechi Oakeley Cyf i reoli’r chwareli eraill ym 1884 ac roedd cytundeb rhyngddynt yn ystod yr un flwyddyn.[7] Cyflogwyd dros 500 o ddynion ym 1882, a chynhyrchwyd llechi mewn 3 melin, 2 yn ddefnyddio ynni dŵr ac un ynni stêm. Roedd tua 50 llif a 50 peiriant trin. Syrthiodd rhai ardaloedd gwaith yng Nghwmorthin ym 1884, yn gwagu Llyn Bach.Aeth cynhyrchu i lawr o 11,600 tunnell ym 1884 i 6,900 ym 1886. Roedd hi’n amhosibl cyrraedd hanner y pwll. Roedd rhaid agor siambrau newydd is o Lyn Cwmorthin, ac oedd hynny’n gostus. Aeth y cwmni i’r wal ym 1888.[8]
Y Cwmni Newydd Llechi Cymreig
golyguAr ôl cwymp o 6,250,000 o dunellau o lechi yng ngwaith y Cymru Llechi Cymreig ym 1844, dilynodd achos llys i benderfynu pwy dylai dalu iawndal i bwy, collodd Cwmni Llechi Cymreig yr achos. Ond yn hytrach na thalu iawndal, rhoesant orau i’w prydles, yn cadw eu elwon a darn sylweddol o’u byddsoddiad gwreiddiol. Ar ôl methiant Cwmni Cwmorthin, ffurfiwyd Y Cwmni Newydd Llechi Cymreig ym 1889 a phrynwyd prydles Cwmorthin am £83,000.[9].Roedd Evelyn Ashley (cyn-gyfarwyddwr Y Cwmni Llechi Cymreig) a’r Aelod Seneddol Joseph Howard.[10]. Yr asiant oedd Robert Owen, a oedd asiant y cwmni blaenorol. Roedd y Cwmni Oakeley wedi beio Owen am y cwymp mawr, a phan triodd o i recriwtio cyn-weithwyr yr hen gwmni i ddod yn ôl i’w gwaith gyda’r cymni newydd, doedd y Cwmni Oakeley ddim yn hapus.[9] Estynnwyd y chwarel yn is, gyda 5 lefel is na’r llyn. Adeiladwyd incleiniau, yn defnyddio peiriannau stêm arnynt, a phympiau i cadw’r lefelau’n sych.[9]. Erbyn 1897 cyflogwyd 290 o bobl, 153 ohonynt yn gweithio o dan ddaear.[10] Ond achosodd ei dramffordd hir codiad ym mhris ei lechi. Erbyn 1896 oedd y cwmni’n un cydweithredol yn rhannu ei incwm gyda gweithwyr gyda cyfrandaliadau. Cynhyrchwyd 77,367 tunnell o lechi gan y cwmni, ac aeth y cymni i arwerthiant, ond yn aflwyddiannus. Aeth y cwmni i’r wal ym 1902.[10]
Perchnogaeth Oakeley
golyguPoenodd Cwmni Oakeley am gyflwr Chwarel Cwmorthin ers 1889; roedd perygl o lifogydd o Lyn Cwmorthin. Er diogelwch, prynodd y cwmni’r chwarel, heb fawr o fwriad o weithio yno. Dymchwelwyd Melin y Llyn, a chaewyd y melinau eraill. In 1902 cymerodd y cwmni beirianwaith y chwarel a gadawodd y chwarel i lenwi gyda dŵr. Gwnaethwpy cysylltiad rhwng y ddau chwarel, a llifodd dŵr i chwarel canol Oakeley a daeth dŵr i fyny at lefel y llyn i ddarn gogleddol chwarel Oakeley.[11] Wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf dechreuodd Cwmni Oakeley meddwl am ail-agor y chwarel. Er bod y chwarel wedi bod ar gau ers dros hugain mlynedd, roedd pobl lleol wedi cymryd llechi, ac roedd y chwarel yn anniogel. Ail-osodwyd y dramffordd rhwng y chwarel a’r Rheilffordd Ffestiniog, yr incleiniau a’r melinau, ac adeiladwyd storfa ffrwydron newydd. Ond darganfuwyd fod ddim llawer o lechi da yn yr hen ardal o waith. Ond darganfuwyd llechi eraill dan ddaear, ac adeiladwyd tramffyrdd newydd a chrewyd lefel newydd yn rhan gogleddol y chwarel.[12]
Er roedd llechi da ar gael, roedd diffyg pŵer a hefyd problemau symud llechi i lawr y mynydd. Defnyddiwyd trydan ac awyr gywasgedig a chrewyd cynllun ym 1932 i ddraenio dŵr i ganiatáu dod â phŵer o’r ochr Oakeley. Roedd y gwaith Oakeley o dan y Gwaith Cwmorthin erbyn hyn, felly roedd hi’n bosibl draenio Cwmorthin. Ail-ddechreuodd gwaith ar wyneb Cwmorthin. Adeiladwyd inclein newydd, ac estynnwyd un o incleiniau Oakeley er mwyn symud llechi.[13]
Caewyd y chwarel dros yr Ail Rhyfel Byd, heblaw am ddefnyddio’r pympiau. Wedi’r rhyfel, ceisiwyd symud y daear o haen uwch y chwarel, heb lwyddiant. Symudwyd peiriannau o’r safle. Caewyd chwarelau Oakeley a gwerthwyd Cwmorthin. Gweithiodd dynion lleol, clirio tunelau a symud cerrig[14]. Daethant â llif a defnyddiwyd Land Rover. Ailadeiladwyd melin yn ystof yr 1980au, ond methodd y prosiect. Ailagorwyd y chwarel rhwng 1995 a 1997.[15]
Llyfryddiaeth
golygu- Alan John Richards Gazeteer of slate quarrying in Wales (Llygad Gwalch, 2007)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Isherwood, Graham (1982). Cwmorthin Slate Quarry. Dolgellau: Merioneth Field Study Press
- ↑ "Gwefan www.cwmorthin.co.uk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-02-12. Cyrchwyd 2021-02-21.
- ↑ Isherwood, Graham (1982). Cwmorthin Slate Quarry. Dolgellau: Merioneth Field Study Press
- ↑ "Cwmorthin Slate Mine; cyhoeddwr:The Great Orme Mine Exploration Society; blwyddyn:2008" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-07-25. Cyrchwyd 2021-03-04.
- ↑ Isherwood, Graham (1982). Cwmorthin Slate Quarry. Dolgellau: Merioneth Field Study Press
- ↑ Isherwood 1982, tt. 5,7.
- ↑ Isherwood 1982, t. 9.
- ↑ Isherwood 1982.
- ↑ 9.0 9.1 9.2 Isherwood 1982, t. 10.
- ↑ 10.0 10.1 10.2 Boyd 1975, t. 447.
- ↑ Isherwood 1982, t. 12.
- ↑ Isherwood 1982, t. 13.
- ↑ Isherwood 1982, tt. 13-14.
- ↑ Isherwood 1982, tt. 14-15.
- ↑ Richards 1999, t. 157.