Tanygrisiau

pentref yng Ngwynedd, Cymru
(Ailgyfeiriad o Tan-y-grisiau)

Hen bentref chwarel yw Tanygrisiau ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (weithiau Tan-y-grisiau), ger Blaenau Ffestiniog yng Ngwynedd.

Tanygrisiau
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9867°N 3.9569°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH687450 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Codwyd y pentref ar gyfer y chwarelwyr a weithiai yn chwareli'r Moelwynion, uwchlaw'r pentref i'r gogledd.

Yn agos i Danygrisiau mae argae Llyn Stwlan, rhwng Moelwyn Mawr a Moelwyn Bach, â'i phwerdy trydan dŵr. Mae ffordd o'r pentref yn dringo i fyny iddo a cheir canolfan ymwelwyr yno.

Mae Rheilffordd Ffestiniog, sy'n cysylltu Blaenau Ffestiniog â Phorthmadog, yn mynd trwy'r pentref ac yn atyniad twristaidd pwysig yn yr haf.

Enwogion

golygu
  • Brodor o Danygrisiau oedd y bardd ac emynydd Moelwyn (18661944). Roedd ei emynau'n boblogaidd iawn ar droad yr 20g.
  • Bardd arall o'r pentref oedd Lewis Moelwyn Jones (Lewis Moelwyn).
  • Bu'r bardd a diwygiwr cymdeithasol Silyn yn weinidog yn Nhanygrisiau o 1905 hyd 1912.
  • Gwyn Thomas - cafodd y bardd ac ysgolhaig ei eni yn y pentref yn 1936.
  • Mae'r cerddor Gai Toms (Gareth J. Thomas), yn hanu o Danygrisiau.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu