Chwarel Dorothea

mwynglawdd yng Nghymru

Chwarel lechi yn Nyffryn Nantlle rhwng Talysarn a Nantlle oedd Chwarel Dorothea.

Chwarel Dorothea.

Agorodd y chwarel yn 1820, gan gyfuno nifer o weithfeydd llai. Yr enw gwreiddiol oedd Cloddfa Turner, ar ôl y perchennog William Turner, ond fe'i hail-enwyd yn Chwarel Dorothea ar ôl Dorothea. gwraig y tirfeddianwr Richard Garnons. Roedd y chwarel yn cael ei gwasanaethu gan Reilffordd Nantlle, a agorwyd yn 1828.

Yn 1848 rhoddodd Turner y gorau i'r chwarel, a bu ar gau am gyfnod byr nes ei hail-agor gan nifer o bobl leol. Am gyfnod bu'r Parchedig John Jones, Talysarn yn rhedeg y chwarel. Erbyn y 1860au roedd yn eiddo i John Hughes Williams o Langernyw, perthynas trwy briodas i John Jones. Erbyn y 1870au roedd y chwarel yn cynhyrchu dros 17,000 tunnell y flwyddyn. Roedd llifogydd yn broblem yma, ac yn 1884 boddwyd nifer o weithwyr. Yn 1895, newidiwyd cwrs Afon Llyfni i leihau'r broblem. Caewyd yn chwarel yn 1970.

Erbyn hyn, mae dŵr wedi llenwi hen dwll y chwarel, gan greu pwll dwfn, hyd at 110 medr yn y mannau dyfnaf, sy'n boblogaidd gyda deifwyr. Mae nifer o ddeifwyr wedi marw yma, oherwydd y dyfnder ac oerni'r dŵr.