Chwarel lechi i'r dwyrain o dref Blaenau Ffestiniog oedd Chwarel Rhiwbach. Fe'i dechreuwyd tua diwedd y 18g a bu'n gweithio hyd 1952.

Rhai o adfeilion "pentref" y gweithwyr yn Chwarel Rhiwbach
Tramffordd Rhiwbach

Pan ddechreuwyd y chwarel, cludid y llechi ar gefn ceffylau i lawer i Gwm Penmachno ac oddi yno i Drefriw, lle'r oedd cei. Yn ddiweddarach, cludid y llechi i'r cyfeiriad arall, dros ysgwydd y Manod Mawr i gyrraedd Afon Dwyryd ger Maentwrog. Agorwyd Tramffordd Rhiwbach yn 1863, yn cysylltu a Rheilffordd Ffestiniog.

Gan fod safle'r chwarel yma yn un anghysbell, gellir gweld olion nifer o adeiladau ar gyfer y gweithwyr, nid yn unig barics ond tai i deuluoedd, ysgol a siop.

Dolen allanol golygu