Band roc Cymraeg o Ynys Môn yw Chwarter Call. Ei aelodau yw Richard Owen (llais a gitâr), Daniel Jones (gitâr), Dafydd Glyn Roberts (drymiau), a Tomos Hughes (gitâr fas). Ar ôl chwarae gyda Frizbee ac Elin Fflur ar daith C2/Bandit, enillodd y band gystadleuaeth Brwydr y Bandiau Sbarc yn y Galeri yng Nghaernarfon ym mis Hydref 2008. Darlledwyd fideo o'r gân 'Cana Gân' ar raglen Uned 5 ar 21 Ionawr, 2009.

Rhyddhawyd EP cyntaf y band ar Fehefin yr 17fed 2009, ar label Bocswn.

Dolenni allanol golygu