Y Chwilys Rhufeinig
Cyfundrefn o dribiwnlysoedd yn yr Eglwys Babyddol oedd y Chwilys Rhufeinig a ddatblygwyd gan yr Esgobaeth Sanctaidd yn ail hanner yr 16g. Roedd yn rhan bwysig o'r Gwrth-Ddiwygiad yn Ewrop.
Enghraifft o'r canlynol | endid a fu |
---|---|
Math | tribiwnlys eglwysig, Chwilys |
Daeth i ben | 1908 |
Dechrau/Sefydlu | 21 Gorffennaf 1542 |
Sylfaenydd | Pab Pawl III |
Rhagflaenydd | Papal Inquisition |
Olynydd | Cynulleidfa Gysegredig y Swyddfa Sanctaidd |
Rhiant sefydliad | Chwilys, Llys y Pab |
Sefydlwyd yn 1542 gan y Pab Pawl III, a phrif arweinydd y Chwilys oedd y Cardinal Giovanni Pietro Carafa, a ddaeth yn Bab Pawl IV yn 1555. Yn ystod ei deyrnasiad byr yn bennaeth ar yr Eglwys Gatholig, fe greodd Pawl IV yr Index Librorum Prohibitorum neu'r rhestr o lyfrau a waherddir, fe wrthododd i Iddewon Rhufain rhag mynd i unrhyw fan o'r ddinas y tu allan i'r geto, a fe orchmynai Il Braghettone i beintio dillad ar ffigurau noeth Michelangelo yng Nghapel Sistine.
Achos enwocaf y Chwilys Rhufeinig oedd rhoi'r seryddwr Galileo ar brawf yn 1633. Yn holl hanes y Chwilys, cafodd mwy na 50,000 o unigolion eu rhoi ar brawf. Yn 1858, y Chwilys oedd yn cyfrifol am gipio Edgardo Mortara, bachgen Iddewig o Bologna a gafodd ei fedyddio heb ganiatâd ei rieni.