Cilpeddeg
Pentre bychan yn Swydd Henffordd yw Cilpeddeg (Saesneg: Kilpeck). Saif tua 9 milltir o Henffordd, i'r de o ffordd yr A465 i'r Fenni, a thua 5 milltir o ffin Cymru a Lloegr.
![]() | |
Math | pentref, plwyf sifil ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Henffordd (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.9697°N 2.81°W ![]() |
Cod SYG | E04000784, E04012987 ![]() |
Cod OS | SO444304 ![]() |
Cod post | HR2 ![]() |
![]() | |
Enwir eglwys Cilpeddeg fel 'Lann Degui Cil Pedec' (sef Llanddewi Cilpeddeg) mewn rhestr o eglwysi a luniwyd tua 1120 yn Llyfr Llandaf .[1] Mae'r eglwys bellach wedi ei chysegu i Ddewi a Mair, ac mae'r adeilad yn enghraifft flaenllaw o bensaernïaeth Normanaidd (neu Romanesg). Adeiladwyd hi tua 1140.
Bu hefyd castell mwnt a beili Normanaidd ar y safle ond nid yw hwnnw bellach yn sefyll.
Hyd at y 9g, pan orchfygwyd yr ardal o'i amgylch gan Mersia, bu'r pentref yn rhan o deyrnas Ergyng. Wedi'r Concwest Normanaidd daeth yr ardal i gael ei alw'n Archenfield ac fe'i llywodraethwyd fel rhan o'r Mers. Daeth yn rhan o Swydd Henffordd yn yr 16g, ond parhaodd defnydd o'r Gymraeg yno hyd at y 19g.
Gweler hefyd golygu
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Coe, Jonathan Baron (2001). The Place-Names of the Book of Llandaf (PDF). Aberystwyth: PhD Prifysgol Cymru. t. 415.