Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2021

Cafodd y Cyfrifiad ei gynnal yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ar ddydd Sul 21 Mawrth 2021. Yn yr Alban mae'r cyfrifiad wedi cael ei gohirio i 2022 oherwydd Pandemig COVID-19. Hwn oedd yr 21ain cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig. Trefnwyd y Cyfrifiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghymru a Lloegr, gan Gofnodion Gwladol yr Alban yn yr Alban a gan Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon yng Ngogledd Iwerddon. Roedd yr awdurdodau eisiau i fwyafrif o bobl gwblhau'r cyfrifiad ar-lein.[1]

Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2021
Cyfrifiad blaenorol Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011
Cyfrifiad nesaf Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2031
Ardal Deyrnas Unedig
Awdurdod Swyddfa Ystadegau Gwladol
Dyddiad y Cyfrifiad 21 Mawrth 2021
Neges gan Mark Drakeford, Llywodraeth Cymru am Gyfrifiad 2021.

Oherwydd argyfwng COVID-19, roedd newidiadau mawr i'r ffordd roedd y cyfrifiad yn cael ei gynnal.[2]

Dyma'r tro cyntaf roedd y cyfrifiad yn cael ei gynnal ar ôl cyflwyno strategaeth "Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr" gan Lywodraeth Cymru yn 2017.[3] Mae pobl yn awyddus iawn i weld faint o bobl sydd yn medru'r iaith.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Ynglŷn â'r cyfrifiad". Cyfrifiad 2021. Cyrchwyd 2021-02-13.
  2. George Thorpe; Neil Shaw (16 Chwefror 2021). "Huge changes to way the Census will work in 2021". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 24 Chwefror 2021.
  3. "Cymraeg 2050: strategaeth y Gymraeg". LLYW.CYMRU. Cyrchwyd 2021-03-01.