Cip-fflach

(Ailgyfeiriad o Cip-fflachio)

Term mewn pornograffi i ddisgrifio math o luniau ydy cip-fflach (Saesneg: upskirt) lle gwelir dillad isaf merch, neu weithiau ei fwlfa pan mae hi ar gomando.

Cip-fflach
Matherotica, Llygadu, digital abuse, sexual misconduct, digital sexual violence, trosedd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
"Y Siglen"; paentiad olew gan Jean-Honoré Fragonard (1732–1806).

Er y gall lluniau cip-fflach gael eu tynnu gyda chydsyniad y gwrthrych, ceir marchnad sylweddol am luniau a dynnir yn ddirgel, yn enwedig mewn lleoedd cyhoeddus. Tynnir rhai o'r lluniau hyn gyda chydsyniad y ferch, gan esgus fod yn anymwybodol o'r ffaith, ond ceir eraill a dynnir heb gydsyniad o gwbl trwy ddefnyddio camera cudd. Voyeur ('gwyliwr') ydy'r term Ffrangeg a roddir ar y person sy'n gwylio ac mae lluniau cip-fflach yn perthyn i voyeurism.

Enghraifft o gip-fflach manga.

Honnir yn aml mai gyda dyfodiad y ffôn symudol gyda chamera ynddo y dechreuodd y genre yma o luniau erotig, ond mewn gwirionedd mae'n tarddu o'r 1960au pan ddaeth y miniskirt yn ddilledyn ffasiynol gan ferched ifanc.

Mae tynnu lluniau cip-fflach yn ddirgel heb ganiatad y gwrthrych yn anghyfreithlon mewn rhai gwledydd am ei fod yn erbyn cyfraith preifatrwydd.

Mae'r diwydiant panchira yn Japan yn ymwneud â hyn ac yn faes enfawr o fewn manga ac anime.

Gweler hefyd

golygu